Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn edrych tuag at ei dyfodol

Wedi ei bostio ar 27 Chwefror 2020
CAWCS

Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn edrych tuag at ei dyfodol

Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn edrych tuag at ei dyfodol, wrth iddi ddod yn rhan o strwythur academaidd Athrofa Addysg a Dyniaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cael ei hadnabod fel canolfan ragoriaeth ryngwladol am ei gwaith o ran y Gymraeg ynghyd ag ieithoedd, llenyddiaethau, hanes a diwylliannau’r gwledydd Celtaidd eraill.  Mae’r trefniant newydd yn cadarnhau’r cydweithio agos a fu rhwng y Ganolfan a’r Athrofa ers nifer o flynyddoedd o ran cyd-addysgu ac ymchwil. Bydd y Ganolfan yn parhau i fod yn endid a chanolfan ymchwil ar wahân ac yn rheoli ei gweithgaredd academaidd ac ymchwil gan gynnal ac ehangu ar ei disgyblaethau. Bydd hefyd yn parhau i gael ei harwain gan Gyfarwyddwr a bydd Bwrdd Ymgynghorol yn cynnig cyngor a chefnogaeth ac yn hyrwyddo buddiannau ac uchelgais y Ganolfan.

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Wrth wreiddio’r Ganolfan o fewn strwythur academaidd Athrofa Addysg a Dyniaethau’r Brifysgol y nod yw cynnig cyfleoedd ehangach ar gyfer addysgu ac ymchwil tra hefyd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i  hybu ei gwaith a’i henw da gyda chefnogaeth timoedd arbenigol y Brifysgol o ran denu cyllid grantiau, marchnata a gwasanaethau ymgynghorol. Mae’r Brifysgol hefyd wedi sefydlu cynghrair strategol gyda Choleg yr Iesu, Rhydychen yn seiliedig ar arbenigedd y Ganolfan a darpariaeth y Brifysgol yn Llambed er mwyn meithrin cyfleoedd newydd i hyrwyddo Astudiaethau Celtaidd a Chymreig.  Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'r Athro David Willis, deilydd y Gadair Geltaidd yn Rhydychen, ar ein cynllun academaidd dros y pum mlynedd nesaf”.

Y mae’r Ganolfan hefyd yn gyfrifol am gynnal Geiriadur Prifysgol Cymru ac ymhlith y nifer o brosiectau adnabyddus mae ei gwaith ar Feirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr.  Mae ei gwaith cyfredol yn cwmpasu hanes cynnar yr ieithoedd Celtaidd, Cwlt y Seintiau yng Nghymru, llên teithio ac enwau lleoedd. Y mae’r Ganolfan yn cynnal digwyddiadau sy’n agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, gan gynnwys ffora blynyddol sy’n berthnasol i’w phrosiectau cyfredol, cynadleddau pwysig ym maes Astudiaethau Celtaidd, a seminarau pythefnosol yn ystod tymhorau’r gaeaf a’r gwanwyn.

Meddai Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Dafydd Johnston: “Mae cefnogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn hollbwysig i ddyfodol y Ganolfan, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu’r berthynas gref sydd gennym â staff yr Athrofa Addysg a Dyniaethau er lles ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd.”

 Meddai Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Bwrdd, Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: Bydd y Brifysgol yn mynd ati ar fyrder i ddewis aelodau pwyllgor ymgynghorol y Ganolfan a fydd yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr a staff yr Athrofa i fynd i’r afael â datblygu meysydd ymchwil a meithrin partneriaethau newydd i’r dyfodol.”

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori