Dathliad Graddio Prifysgol Cymru 2020
Gyda gofid rydym wedi penderfynu gohirio ein seremonïau graddio yn haf 2020. Gwerthfawrogwn y bydd y newyddion yma yn siom, ond gallwn eich sicrhau nad ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad hwn.
Mae’n wirioneddol flin gennym am yr anghyfleustra a achosir gan hyn, ond ar ôl ystyriaeth ofalus, ein prif bryder yw iechyd a llesiant ein myfyrwyr, eu gwesteion a’n staff – yn enwedig yn y fath amserau ansicr a heriol.