Skip page header and navigation

Mentyll Swyddogion y Brifysgol

Mentyll Swyddogion y Brifysgol

Bydd pob un o swyddogion y Brifysgol yn gwisgo gŵn du ac iddo addurniadau penodol. Capiau ar ffurf bwrdd sgwâr a wisgir, a’r rheiny o felfed du.

Y Canghellor : gŵn o frocêd satin du ac iddo ymylon o les aur ar y ffesinau ac ar goler y clogyn. Mae i’r fantell addurniadau o frodwaith aur gan gynnwys draig Cymru yn uchel ar y ddwy lawes. Ceir addurniadau o aur hefyd ar doriadau ac adenydd y llewys. Mae i’r cap ymyl o les aur patrymog, a botwm bwliwn aur mawr a thasel aur.

Y Dirprwy Ganghellor : mantell o sidan otoman du, gyda ffesinau a choler o sidan moir é browngoch tywyll i’r clogyn. Ymylon o les aur, ar siâp dail derw, ar ffesinau blaen a choler y clogyn. Ymylon o les aur, ar siâp dail derw, ar doriadau ac adenydd y llewys. Trimin o addurniadau aur ar adenydd y llewys. Mae i’r cap ymyl o les aur, ar siâp dail derw a botwm bwliwn aur mawr a thasel aur.

Yr Is-Ganghellor : mantell o sidan du. Ymylon o les arian, ar siâp dail derw, ar ffesinau blaen a choler y clogyn. Ymylon o les arian, ar siâp dail derw, ar doriadau ac adenydd y llewys. Trimin o addurniadau arian ar adenydd y llewys.  Mae i’r cap ymyl o les arian, ar siâp dail derw a botwm bwliwn arian mawr a thasel arian.