Skip page header and navigation

04: Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli

Content

04: Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli
Holder Image
Awdur/Golygydd N. G. Costigan (Bosco), R. Iestyn Daniel a Dafydd Johnston
Cyhoeddwyd 1995
ISBN 0947531246
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xvii+173

Pymtheg o gerddi sy’n gynnyrch pedwar bardd pwysig a ganai yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Goncwest ac ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a geir yn y gyfrol hon. Gwelir yng ngwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, bardd oedd yn hanfod o Fôn yn ôl pob tebyg, rai o’r themâu serch a ddatblygwyd yn ddiweddarach gan Ddafydd ap Gwilym. Canodd Gwilym Ddu o Arfon awdlau ar achlysur carcharu Syr Gruffudd Llwyd a hefyd awdl farwnad i Drahaearn Brydydd Mawr. Nodweddir cerddi Gwilym yn arbennig gan ddwyster y teimlad a grym ei ymadrodd. Cymysgryw yw cynnyrch Trahaearn a ganodd yn Ystrad Tywi a Morgannwg – ar y naill law ceir ganddo ddwy awdl wedi eu cyfansoddi yn nhraddodiad Beirdd y Tywysogion, ac ar y llaw arall ceir tair cerdd ddychan, gan gynnwys cerdd ddychan lem a chelfydd i’w gyd-fardd Casnodyn. Gan Iorwerth Beli ceir un awdl yn unig sy’n gŵyn i Esgob Bangor am y diffyg parch a ddangosai tuag at feirdd yn ei lys.

Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com