Rheoliadau Academaidd
Bydd unrhyw raglen ddilysedig sy’n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru yn gweithredu’n unol â Rheoliadau Academaidd, Protocolau a Gweithdrefnau’r Brifysgol.
Mae’r dogfennau hyn yn cynnwys rheolau a bennwyd gan Fwrdd Academaidd y Brifysgol sy’n ymwneud â derbyn ac asesu myfyrwyr a’ch hawliau fel myfyriwr.
Mae sicrhau rheolau sydd yr un fath i holl raglenni Prifysgol Cymru o’r un lefel yn golygu y gall y Brifysgol fod yn sicr fod safonau ei rhaglenni yr un fath, lle bynnag yn y byd y cânt eu cyflenwi.
Dilynwch y dolenni isod at y rheoliadau a’r dogfennau ategol ar gyfer dyfarniadau Prifysgol Cymru yn ystod y sesiwn academaidd gyfredol: