Newid a Chyfnewid Diwyllianol: Cymru a Llydaw

Newid a Chyfnewid Diwyllianol: Cymru a Llydaw
Newid a Chyfnewid Diwyllianol: Cymru a Llydaw
Gweithdai Cymru a Llydaw
Dros y blynyddoedd datblygodd perthynas rhwng ymchwilwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Centre de recherche bretonne et celtique. Yn 2009 agorodd pennod newydd yn hanes y cydweithio rhyngddynt: yn ystod 2009–2010 cynhaliwyd cyfres o bedwar gweithdy, yn Aberystwyth ac yn Brest bob yn ail, a osododd seiliau ar gyfer cydweithio ar lefel sefydliadol. Noddwyd y gweithdai gan raglen ‘Alliance’ y Cyngor Prydeinig, rhaglen sy’n hyrwyddo partneriaethau ymchwil rhwng Prydain a Ffrainc. Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf ‘Golwg ar yr Oesoedd Canol: Cymru a Llydaw’ yn y Ganolfan ar 24 Ionawr 2009. Cynhaliwyd yr ail weithdy ‘Paysage et patrimoine’ (Treftadaeth a thirwedd) yn Manoir Kernault, Mellac, ar 6 Mehefin 2009. Cynhaliwyd y trydydd gweithdy, ar ieithyddiaeth, yn Aberystwyth ym Mawrth 2010, a gweithdy arall yn Llydaw ar y thema ‘Rhyfel a heddwch’ yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bellach cyhoeddwyd detholiad o draethodau yn deillio o’r gweithdai.
Prosiect archifau Cymru-Llydaw
Yn 2022, llwyddodd cais ar y cyd gyda’r Centre de recherche bretonne et celtique ym Mhrifysgol Brest, a’r Llyfrgell Genedlaethol, i gronfa CollEx-Persée i weithio ar archif Lydewig bwysig y Llyfrgell, ac archifau Cymraeg a gedwir yn Llydaw.
Mewn partneriaeth gyda’u cyd-weithwyr yn Llydaw mae ymchwilwyr wedi cyd-destunoli, dadansoddi, a digido detholiad o’r testunau. Dros gyfnod o ddwy flynedd mae sawl taith ymchwil wedi digwydd a chynheliwyd dau weithdy agored ar y pwnc, y naill yn Brest (Chwefror 2024) a’r llall yn Aberystwyth (Mehefin 2024). Ymwelodd dau ymchwilydd o ochr y Ganolfan â’r archifau yn Llydaw (Prifysgol Brest a’r Archives départementales yn Quimper) yn ystod 2023, a daeth grwp o Brifysgol Brest i weithio ar yr archif Lydewig yn yr ystafell ddarllen yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ym mis Chwefror 2023 ac ym mis Mehefin 2023. Yn ogystal croesawyd myfyrwraig ddoethuriaethol o Brest i dreulio tri mis yn y Ganolfan er mywn iddi hi hefyd weithio ar yr archif yn LlGC yng nghyd-destun y prosiect hwn. Yn 2024 aeth tri ymchwilydd o Gymru i Brest i gymryd rhan mewn cynhadledd undydd agored i’r cyhoedd ac arlein yn Chwefror, a bydd saith aelod o’r Ganolfan Ymwchil Celtaidd ym Mhrifysgol Brest yn dod i Aberystwyth ym Mehefin i gymryd rannu ffrwyth eu hymchwil mewn cynhadledd undydd agored. Trefnwyd arddangosfa o eitemau archifol yn LLGC i gydfynd â’r gynhadledd undydd. Ceir recordiadau o rai o’r papurau a draddodwyd yn y gynhadledd yn LlGC yn Mehefin 2024 ar sianel YouTube y Ganolfan.
Dyfarnwyd bwrsariaeth y prosiect i Catrin Mackie, myfyrwraig ym Mhrifysgol Rhydychen, i alluogi ymchwilydd gyrfa gynnar i gymryd rhan yn yr ymchwil. Mae hi wedi treulio cyfnod yn yr archifau ym Mhrifysgol Brest ac yn Quimper yn ystod haf 2023. Cafodd Catrin ei mentora i gynhyrchu ei phapur cynhadledd cyntaf, sydd ar gael ar YouTube, yn ogystal â llunio erthygl ar gyfer blog y prosiect. Gweithiodd y prosiect mewn partneriaeth gyda thîm gwirfoddolwyr LlGC ar dasgau trawsysgrifio a chyfieithu i gefnogi’r ymchwilwyr o Lydaw wrth iddynt baratoi eu papurau.
Nod y prosiect yw ehangu mynediad i rai o ddogfennau’r casgliadau sydd yn yr archifau Llydewig yng Nghymru, dogfennau sydd yn eu tro yn cysylltu â rhai o’r dogfennau sydd mewn archifdai yn Llydaw ac yn Ffrainc. Bydd hyn yn rhoi darlun llawnach inni o’r berthynas rhwng Cymru a Llydaw dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae hefyd yn gyfle ardderchog i gryfhau’r cysylltiadau cryf sydd eisoes yn bod rhwng y Ganolfan a’r CRBC.
Derbyniodd y gwaith dipyn o sylw yn y cyfryngau, gyda thri chyfweliad ar BBC Radio Cymru o amgylch dyddiad y gynhaldedd yn Mehefin 2024, a dau gyfweliad yn gyharach yn y prosiect, a chyhoeddwyd erthygl fanwl ar y cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw ar fore’r gynhadledd ar wefan BBC Cymru Fyw. Cyfrannodd y prosiect ddarlith i Ŵyl Cymru-Llydaw Aberystwyth, a drefnwyd gan Gymdeithas Cymru Llydaw ym Mai 2024. Bydd erthyglau sy’n seiliedig ar yr ymchwil yn ymddangos yn y cyfnodolyn diwylliannol O’r Pedwar Gwynt.
Rydym yn rhannu newyddion y prosiect a ffrwyth ein hymchwil ar y blog.