Skip page header and navigation

Siarter Myfyrwyr Prifysgol Cymru

Siarter Myfyrwyr Prifysgol Cymru

Ym mis Hydref 2011, gwnaeth cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ymrwymiad i uno. Cytunodd y tri sefydliad i gydweithio i greu sefydliad unedig dan Siarter 1828 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Ar yr adeg hon, cyhoeddodd y Brifysgol hefyd y byddai’n tynnu’n ôl o’i holl ddarpariaeth ddilysedig, fodd bynnag cadwodd ei hymrwymiad i ddiogelu datblygiad a chyflawniad ei myfyrwyr, a sicrhau bod yr holl fyfyrwyr cofrestredig yn cael cyfle i gwblhau eu rhaglen astudio.

Mae Siarter y Myfyrwyr yn datgan y rhwymedigaethau allweddol cyffredin rhwng Prifysgol Cymru a’i myfyrwyr. Mae’n ddogfen fyw sy’n amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i’r holl fyfyrwyr sydd ar raglenni yn arwain at ei dyfarniadau; ac fe’i hadolygir yn flynyddol gan Fwrdd Materion Myfyrwyr y Brifysgol.

Mae gan y Brifysgol ymrwymiad i ddatblygu partneriaeth gref gyda’i myfyrwyr; sicrhau bod myfyrwyr wrth graidd cynllun a gweithrediad eu rhaglenni astudio, drwy gyfleoedd i ymgysylltu â’r seilwaith llywodraethu academaidd.

Nid yw Siarter y Myfyrwyr yn gontract cyfreithiol rhwng Prifysgol Cymru a’i myfyrwyr. Yn hytrach mae’n ganllaw i’r gwasanaeth a’r ymddygiad y mae’n rhesymol i’r myfyrwyr a’r Brifysgol eu disgwyl gan ei gilydd.

Mae Prifysgol Cymru yn sefydliad dwyieithog, sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn weithredol yn unol â’i chynllun iaith Gymraeg. Fel partner allweddol mewn trafodaethau i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae’r Brifysgol yn annog myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i ymwneud â’i waith. Mae’r Brifysgol yn cydnabod ac yn cefnogi’n weithredol gwaith ei sefydliadau Achrededig a Chyswllt yng Nghymru mewn perthynas â’u cynlluniau iaith Gymraeg fel y’i manylir yn eu Siarteri Myfyrwyr eu hunain.