Skip page header and navigation

Hanes Prifysgol Cymru

Hanes Prifysgol Cymru

Cyflwyniad a Ffurfio’r Brifysgol Ffederal

Gan rychwantu tair canrif, mae Prifysgol Cymru wedi’i hystyried yn sefydliad cenedlaethol wrth galon bywyd addysgol a diwylliannol Cymru. Bernir fod sefydlu’r Brifysgol ym 1893 yn un o’r datblygiadau gwleidyddol a chymdeithasol pwysicaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Drwy haelioni’r werin, bu dinasyddion Cymru’n ymgyrchu am yr hawl i gael addysg Prifysgol yn eu gwlad eu hunain. Roedd caniatáu Siarter Brenhinol i sefydlu prifysgol genedlaethol yn arwydd o ymrwymiad clir i bobl Cymru.

Roedd datblygu canolfannau dysgu rhanbarthol pellach, drwy sefydlu colegau yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe yn ddatblygiad pwysig oedd yn atgyfnerthu presenoldeb rhanbarthol y Brifysgol yng Nghymru. Drwy ffurfio Prifysgol Ffederal rodd modd i’r Colegau cyfansoddol ddatblygu canolfannau dysg rhanbarthol cryf oedd yn cynrychioli gwahanol elfennau o ddarpariaeth addysg ac ymchwil, ac a oedd yn elwa ar un ‘brand’ gradd cryf. Daeth Prifysgol Cymru ffederal yn gatalydd ar gyfer system addysgol arbennig ac roedd yn nodedig am ansawdd ei hymchwil rhyngwladol.

Roedd pobl Cymru’n ystyried eu Prifysgol yn sefydliad cenedlaethol a gâi ei ddathlu ar lwyfan genedlaethol a rhyngwladol. Drwy gefnogaeth y Brifysgol i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Neuadd Gregynog (a gymynroddwyd i’r Brifysgol yn y 1960au) a Gwasg Prifysgol Cymru, helpodd i hybu a dathlu iaith, etifeddiaeth a diwylliant Cymru.

Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru (2001)

Dros y blynyddoedd, wynebodd y Brifysgol Ffederal gyfres o newidiadau strwythurol gyda rhai o’r colegau cyfansoddol yn galw am ragor o annibyniaeth. Yn 2001 ymgymerodd Llywodraeth newydd Cymru ag adolygiad manwl o addysg uwch yng Nghymru. Un o’r argymhellion allweddol oedd y dylai pob Prifysgol a sefydliad addysg uwch yng Nghymru geisio ei bwerau dyfarnu graddau ei hun. Roedd i’r penderfyniad gwleidyddol hwn oblygiadau mawr i Brifysgol Cymru, gyda’r holl golegau cyfansoddol yn symud i ennill eu pwerau dyfarnu graddau trwy gwrs ac mewn llawer o achosion, graddau ymchwil. O ganlyniad, roedd y strwythur ffederal gwreiddiol, oedd yn greiddiol i’r Brifysgol, bellach yn ddiangen wrth i’r cyn-golegau cyfansoddol adael Prifysgol Cymru dros gyfnod o amser.

Diffinio swyddogaeth newydd i Brifysgol Cymru (2004)

Erbyn 2004, roedd pob un o’r Colegau Prifysgol gwreiddiol wedi torri’n rhydd o Brifysgol Cymru. Dan arweiniad y Dirprwy Ganghellor, yr Arglwydd Wigley o Gaernarfon, ailstrwythurodd y Brifysgol ei hun yn sefydliad annibynnol, ac am y tro cyntaf yn ei hanes ceisiodd ddiffinio swyddogaeth iddi ei hun ochr yn ochr â’r holl sefydliadau academaidd eraill yng Nghymru.

Penododd y Brifysgol Is-Ganghellor i arwain datblygiad strategol y sefydliad, gan sefydlu tîm o staff academaidd ac uwch swyddogion i gyfrannu at weithgareddau newydd oedd yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol. Er nad oedd y Brifysgol yn cofrestru ei myfyrwyr ei hun o hyd, roedd yn parhau i achredu graddau a dyfarniadau i nifer o sefydliadau academaidd yng Nghymru, dilysu rhaglenni astudio a gyflenwid gan ganolfannau partner gartref a thramor a pharhaodd â record y Brifysgol o gefnogi amrywiaeth o wasanaethau diwylliannol a threftadaeth pwysig.

Adolygiad strategol a’r penderfyniad i uno (2010/11)

Erbyn 2010, yn ogystal â myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaethau yng Nghymru, roedd gan y Brifysgol dros 22,000 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru ar raglenni a ddilyswyd gan Brifysgol Cymru mewn dros 130 o ganolfannau yn y DU a thramor, a’r gweithgaredd hwn oedd prif ffynhonnell incwm y Brifysgol.

Digwyddodd nifer o bethau yn ystod 2009, 2010 2011 a achosodd i gorff llywodraethu’r Brifysgol (y Cyngor) adolygu busnes a gweithgaredd craidd Prifysgol Cymru’n strategol, ac arweinodd hyn, ym mis Hydref 2011, at gyhoeddi y byddai’r Brifysgol yn uno â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

  • Ym mis Tachwedd 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad: ‘Er Mwyn Ein Dyfodol - Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain’
     
  • Ym mis Mawrth 2010, roedd llythyr gorchwyl Llywodraeth Cymru at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn cynnwys yr elfennau canlynol:
     
    • Cais i HEFCW adolygu ffurfweddiad a chyllid y sector addysg uwch yng Nghymru ‘i sicrhau cyflenwi mewn modd cynaliadwy blaenoriaethau addysg uwch Cymru fel y’i gosodir yn Er Mwyn Ein Dyfodol’.
       
    • Cadarnhau cynllun HEFCW i ddechrau adolygiad o lywodraethu addysg uwch yng Nghymru. Yn rhan hanfodol o hyn byddai ‘ystyriaeth o Brifysgol Cymru a’i chyfraniad cyfredol ac yn y dyfodol i weithredu Er mwyn Ein Dyfodol…’
       
    • Datgan ei fod yn ‘hanfodol fod ansawdd brand Prifysgol Cymru’n cael ei gynnal’ gan wahodd HEFCW i werthuso casgliadau adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd o Brifysgol Cymru.
  • Ym mis Mai 2010 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylch gorchwyl ar gyfer adolygiad o’r modd yr oedd addysg uwch yn cael ei llywodraethu yng Nghymru (Adolygiad McCormick). Fel rhan o’r adolygiad hwn, gofynnwyd i McCormick ystyried yn fanwl swyddogaeth gyfredol Prifysgol Cymru a’i swyddogaeth yn y dyfodol.
     
  • Ym mis Rhagfyr 2010, argymhellodd HEFCW y dylid ad-drefnu’r sector addysg uwch gyda nifer llai o sefydliadau yn adlewyrchu anghenion rhanbarthol, gan arwain at sawl perthynas strategol ac uniad ymhlith prifysgolion Cymru.
     
  • Ym mis Mawrth a Mehefin 2011, yn dilyn craffu gan y cyhoedd a’r cyfryngau ar Brifysgol Cymru, gwnaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddatganiad am drefniadau dilysu allanol a chydweithredol y Brifysgol.
     
  • Ym mis Hydref 2011 cadarnhaodd datganiad gan Lywodraeth Cymru fod McCormick wedi casglu na allai Prifysgol Cymru barhau yn ei ffurf bresennol. Amlygodd McCormick nifer o faterion ac opsiynau polisi, a chasgliad allweddol yr adolygiad oedd pe bai Prifysgol Cymru am gael swyddogaeth ystyrlon yn y dyfodol y byddai’n rhaid iddi uno â Phrifysgol arall.

Bu Prifysgol Cymru’n ystyried amrywiaeth eang o opsiynau cyn penderfynu derbyn casgliad Adolygiad McCormick a chyhoeddi ei bod am uno â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae’r broses uno wedi dechrau (a chwblhawyd y cam cyntaf, sef uno Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Hydref 2012), fodd bynnag dim ond pan fydd Prifysgol Cymru wedi cwblhau ei hymrwymiadau cyfreithiol i fyfyrwyr sydd wedi dechrau astudio am ddyfarniad gan y Brifysgol ac i’r canolfannau cydweithredol lle maent yn astudio y gellir cwblhau’r uno cyfansoddiadol cyfreithiol llawn.

Roedd penderfyniad Prifysgol Cymru i uno dan Siarter Brenhinol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, sef y Siarter Brenhinol hynaf gan unrhyw Brifysgol yng Nghymru a Lloegr ar ôl Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, yn un arwyddocaol a hanesyddol. Drwy uno, bydd y brifysgol ar ei newydd wedd yn cymryd y cyfraniad a wnaed gan Brifysgol Cymru fel prifysgol ffederal dros ddwy ganrif ac yn parhau i wasanaethu pobl Cymru.

Adduned Cymru – The Wales Pledge

Yn 2012, cyhoeddodd y Brifysgol ei bod yn creu Adduned Cymru - The Wales Pledge i sicrhau y bydd yr asedau y mae’n ei dal yn parhau i fod o fudd i Gymru gyfan. Gyda chronfa werth £6.8m, bydd yn cynnwys cyfres o drefniadau strategol a sefydlu nifer o gyrff elusennol i ddiogelu’r gwasanaethau traddodiadol a gysylltir â’r Brifysgol.

O fewn cyfnod o newid trawsffurifol i addysg uwch yng Nghymru, drwy greu Adduned Cymru - The Wales Pledge, bydd y Brifysgol yn diogelu ei hetifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol a Chymru gyfan, gan barhau’n ffyddlon i’w gwerthoedd craidd a sicrhau bod yr asedau’n gwasanaethu’r diben y’i bwriadwyd ar ei gyfer.

Gan weithio mewn partneriaeth â Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Llywodraeth Cymru a sefydliadau academaidd a dinesig eraill yng Nghymru, bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn parhau’r traddodiad hanesyddol hir o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau addysgol, a fydd yn dathlu arbenigedd Cymru ac yn cefnogi dyheadau gwlad ddynamig sy’n chwarae ei rhan ar lwyfan y byd.

2017/18 – Y Brifysgol ar ei Newydd Wedd

Ym mis Awst 2017, cymeradwyodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant weithred uno oedd yn cyflawni’r amcan polisi gwreiddiol o integreiddio dwy Brifysgol hanesyddol, gan greu Prifysgol newydd i Gymru. Bydd Prifysgol Cymru yn peidio â bod yn gorff achredu i Brifysgolion eraill yng Nghymru ac yn dod â’r rhaglenni dilysedig a gynigir mewn canolfannau yn y DU a thramor i ben.

Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn parchu ac yn cynnal etifeddiaeth ddiwylliannol hanesyddol Prifysgol Cymru a’r genhadaeth a roddwyd iddi gan ein rhagflaenwyr, gan addasu hefyd i ymateb i anghenion myfyrwyr a chyflogwyr, yng Nghymru a thu hwnt.