Adolygiad Cyfnodol
Trefn allweddol ar gyfer cynnal a chyfoethogi ansawdd yw’r adolygiad cyfnodol, ynghyd â sicrhau safonau darpariaeth canolfannau cydweithredol.
Mae Bwrdd Graddau a Dyfarniadau Academaidd y Brifysgol wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer adnewyddu’r adolygiad cyfnodol i gyd-fynd ag amgylchiadau ei strategaeth academaidd newydd.
Mae’r dogfennau canlynol yn cael eu paratoi ar gyfer canolfannau cydweithredol a myfyrwyr sy’n ymwneud ag adolygiad cyfnodol er mwyn sicrhau dealltwriaeth o’r broses a disgwyliadau’r Brifysgol fel awdurdod dyfarnu graddau.
Caiff canolfannau cydweithredol eu hysbysu’n unigol gan y Brifysgol y byddant yn cael eu cynnwys yn amserlen yr adolygiadau cyfnodol.
Adolygiad Cyfnodol: Llawlyfr i Ganolfannau Cydweithredol
Adolygiad Cyfnodol: Llawlyfr i Fyfyrwyr