Skip page header and navigation

Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau o fewn www.wales.ac.uk.

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu gwneud y canlynol ar y rhan fwyaf o’r tudalennau ar ein gwefan:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau.
  • Chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin.
  • Gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’n gwefannau a’n gwasanaethau’n gwbl hygyrch, ac rydym yn gwneud ein gorau i drwsio’r problemau hyn.

  • Nid yw’r wefan yn ymatebol, felly mae’n rhaid i ddefnyddwyr ar ddyfeisiau symudol chwyddo i mewn i ddarllen elfennau o’r wefan.
  • Defnyddir rhai delweddau fel testun.
  • Wrth ffocysu, nid yw rhai elfennau’n cael eu huwcholeuo wrth ddefnyddio bysellfwrdd.
  • Nid oes gan rai o’r lliwiau gymhareb cyferbynnedd digon uchel.
  • Mae testun amgen ar goll o rai delweddau.
  • Nid yw rhai dogfennau, gan gynnwys dogfennau ar fformat PDF, yn gwbl hygyrch eto.
  • Mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

E-bost: web@uwtsd.ac.uk

Ffôn: 01792 481000

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi cyn pen pum diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Gwe ar web@uwtsd.ac.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Cymru yn ymroddedig i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (WCAG) oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfedd â’r rheoliadau hygyrchedd

Bydd yr holl faterion isod yn cael eu trwsio pan fyddwn yn lansio ein gwefan newydd ym mis Mehefin 2023

Ni all defnyddwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig ‘neidio i’r prif gynnwys’ ar bob tudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Rhwystrau) WCAG 2.1.

Ni all defnyddwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig weld elfennau wedi’u huwcholeuo wrth ddefnyddio’r fysell tab i symud trwy elfennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.7 (ffocws yn weladwy) WCAG 2.1.

Nid oes gan rai meysydd mewnbwn label gweladwy sy’n nodi pwrpas y maes mewnbwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.3.2 (Nid yw’r label maes yn weladwy) WCAG 2.1.

Nid oes gan rai tudalennau bennawd brig ar y dudalen. Mae pennawd brig yn helpu defnyddwyr rhaglen darllen sgrin a pheiriannau chwilio i wybod beth yw prif bwnc tudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Dim pennawd brig ar y dudalen) WCAG 2.1.

Mae rhai achosion lle gall defnyddwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig neu ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol brofi trefn ffocws annisgwyl wrth iddynt agor cynnwys cudd neu ddeialogau moddol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.3 (trefn ffocws) WCAG 2.1.

Mae rhai achosion lle mae’n bosibl na fydd defnyddwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig yn gallu cyrchu’r holl gynnwys. Er enghraifft, o fewn rhai o’r acordionau, mae rhywfaint o’r cynnwys nad yw’n hygyrch. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (bysellfwrdd) WCAG 2.1.

Mae rhai o’n PDFs a dogfennau eraill, sy’n hanfodol ar gyfer prosesau gweinyddol, nad ydynt yn bodloni gofynion hygyrchedd yn llawn. Rydym yn gweithio trwy’r dogfennau hyn i sicrhau y bydd eu cynnwys yn hygyrch neu fod dewis arall hygyrch ar gael.

Mae rhai elfennau teitl nad ydynt wedi’u marcio fel penawdau neu gyda’r lefel pennawd cywir, felly efallai na fydd rhai defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn deall y cynnwys yn llwyr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.

Mae sawl problem parsio (codio), gan gynnwys elfennau sydd â phriodoleddau dyblyg, a all effeithio ar dechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.1 (parsio) WCAG 2.1

Baich anghymesur

Rydym yn cydnabod nad yw hygyrchedd ein gwefan yn berffaith, ac rydym yn gweithio’n galed i gywiro’r problemau a nodwyd ar ein llwyfan presennol. Ar hyn o bryd (Hydref 2022), rydym wrthi’n datblygu gwefan newydd â phartner allanol, a fydd yn mynd i’r afael â’r meysydd hynny na ellir eu diwygio ar ein llwyfan presennol. Er nad ydym yn honni y byddai’n faich anghymesur i drwsio’r problemau hyn byth, rydym yn ymwybodol fod y broses o sefydlu gwefan newydd yn cymryd amser. Ein dyddiad a ragwelir ar gyfer gweithredu’r wefan newydd yw mis Mehefin 2023.

Mae prosiect y wefan newydd yn cael ei flaenoriaethu oherwydd bydd yn rhoi amgylchedd digidol cynhwysol, tra hygyrch i bob defnyddiwr. Felly, efallai bod rhai ardaloedd o’r wefan bresennol nad ydynt yn hygyrch na allwn fynd i’r afael â nhw neu eu blaenoriaethu ar hyn o bryd, oherwydd byddai gwneud hynny’n tynnu adnoddau staff oddi wrth brosiect y wefan

newydd. Yn y pen draw, bydd hyn yn cynnig yr ateb gorau i bob defnyddiwr sy’n cael anawsterau hygyrchedd.

Cysylltwch â ni os byddwch chi’n cael anawsterau wrth gyrchu rhannau o’n gwefan gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost web@uwtsd.ac.uk. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn ystyried atebion dros dro fesul achos.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae llawer o’n PDFs a’n dogfennau Word hŷn nad ydynt yn bodloni safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u marcio er mwyn iddynt fod yn hygyrch i raglen darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 (enw, gwerth rôl) WCAG 2.1. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill y’u cyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer prosesau gweinyddol gweithredol. Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Testun mewn ffurflenni

Nid yw testun mewn ffurflenni’n ymateb i fylchiad testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.12 (bylchiad testun) WCAG 2.1. Mae arddull y testun mewn ffurflenni wedi’i eithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Dyma gynnwys trydydd parti nad yw wedi’i ariannu na’i ddatblygu gennym ni ac nad yw o dan ein rheolaeth.

Sut rydyn ni’n profi’r Wefan hon

Rydym yn profi’n Gwefan yn barhaus, ac rydym yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i wirio ein safle:

  • Profi awtomatig: rydym yn defnyddio Siteimprove, sy’n sganio ein tudalennau am wallau hygyrchedd ac sy’n rhoi gwybod i ni pa rai yw’r flaenoriaeth uchaf i’w trwsio.
  • Profi â llaw: rydym yn defnyddio rhestr wirio hygyrchedd i wirio sampl cynrychioliadol o dudalennau o bob rhan o’n Gwefan â llaw. Mae hyn yn cynnwys gwirio y gellir gwe-lywio ein tudalennau gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig a phrofi unrhyw gyferbynnedd lliwiau na ellid eu gwirio’n awtomatig.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 14 Rhagfyr 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 16 Rhagfyr 2022.