Beth yw Atodiad Diploma?
Dogfen yw’r Atodiad Diploma sydd wedi’i chysylltu â thystysgrif addysg uwch ac sydd â’r nod o wella tryloywder rhyngwladol a hwyluso cydnabyddiaeth academaidd a phroffesiynol i gymwysterau.
Fe’i datblygwyd gan nifer o grwpiau o fewn y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae’n clymu’n glos ag amcan Proses Bologna i greu system o ddogfennau darllenadwy a chymaradwy.
Am ragor o wybodaeth am yr Atodiad Diploma, gweler Canllaw i’r Atodiad Diploma Uned Ewrop.
Pwy sy’n gymwys?
Bydd pob myfyriwr sy’n gofrestredig ar raglenni dilysedig Prifysgol Cymru o 1 Ionawr 2005 ymlaen yn derbyn atodiad Diploma cyhyd â’u bod yn cwblhau’r dyfarniad.
Bydd myfyrwyr nad ydynt yn llwyddo i sicrhau dyfarniad, neu sy’n derbyn cymhwyster ymadael, yn derbyn Adysgrif Prifysgol Cymru.
Mae myfyrwyr a gwblhaodd eu dyfarniad yn llwyddiannus cyn 1 Ionawr 2005 yn gymwys i dderbyn Adysgrif Prifysgol Cymru drwy wneud cais
Sut caiff ei baratoi?
Ceir 7 templed atodiad diploma i bob math o ddyfarniad.
Dylai canolfannau cydweithredol gwblhau’r rhain yn unol â Nodiadau Canllaw ar gyfer Paratoi Adysgrifau ac Atodiadau Diploma PC.
Dylid anfon adysgrifau ac atodiadau diploma drafft i registryhelpdesk@cymru.ac.uk ar ffurf atodiadau ebost, ac o fewn pythefnos i gyfarfod o’ch bwrdd arholi neu hysbysu am ganlyniadau’r traethawd ymchwil.
Pryd fydd yn cael ei gyflwyno?
Cyhyd â bod yr wybodaeth a gyflwynir yn gywir ac o fewn y ffrâm amser penodedig, byddai’r Brifysgol fel arfer yn disgwyl anfon dogfennau ffurfiol ynghyd â thystysgrifau’r dyfarniad at y canolfannau cydweithredol o fewn pedair wythnos i dderbyn y drafftiau