Skip page header and navigation

Apeliadau Myfyrwyr

Caiff unrhyw fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar raglen sy’n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru fanteisio ar Weithdrefnau Apelio’r Brifysgol.

Gall myfyrwyr sy’n astudio am ddyfarniad trwy gwrs apelio ar un o’r seiliau canlynol yn unig:

(i) bod nam rhifyddol neu nam ffeithiol arall yn y marciau a gyhoeddwyd;

(ii) bod amgylchiadau arbennig a gafodd effaith andwyol ar berfformiad y myfyriwr nad oedd y Bwrdd Arholi perthnasol yn gwybod amdanynt. Mewn achos o’r fath, rhaid i’r myfyriwr ddangos rheswm da pam na hysbyswyd y Bwrdd Arholi am y cyfryw amgylchiadau personol cyn iddo gyfarfod;

(iii) lle ceir namau neu anghysonderau yn y modd y cynhaliwyd yr arholiadau neu yn y cyfarwyddiadau neu’r cyngor yn ymwneud â nhw, lle gallai’r cyfryw namau, anghysonderau neu gyngor, ym marn y myfyriwr, fod wedi cael effaith andwyol ar ei berfformiad.

Ni chaniateir apelau sy’n cwestiynu barn academaidd arholwyr, neu apelau ar unrhyw sail ar wahân i’r rhai a bennir yn i - iii uchod, neu sy’n seiliedig ar dystiolaeth feddygol dyddiedig ar ôl rhyddhau’r canlyniadau.

Nodwch fod sail apelio’n wahanol i fyfyrwyr sy’n astudio am ddyfarniad ymchwil, a dylai myfyrwyr ymchwil gyfeirio at atodlen Gweithdrefn Apelio Prifysgol Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

PA WEITHDREFN SY’N GYMWYS

Mae’r Brifysgol wedi sefydlu pum gweithdrefn apelio i ymgeiswyr arholiadau’r Brifysgol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig mewn Canolfannau Cydweithredol a Sefydliadau Achrededig a Chyswllt.

Gweithdrefn Apelio Prifysgol Cymru

Mae’r weithdrefn hon yn gymwys i fyfyrwyr sy’n astudio mewn Canolfan Gydweithredol Prifysgol Cymru ar raglen israddedig neu ôl-raddedig trwy gwrs ac ymgeiswyr sy’n astudio am ddyfarniad ymchwil.

Gweithdrefn Apelio (Sefydliadau Achrededig a Sefydliadau Cyswllt)

Mae’r weithdrefn hon yn gymwys i students sy’n astudio mewn Sefdliadau Achrededig a Sefydliadau Cyswllt yng Nghymru (dyfarniad ôl-raddedig neu israddedig, trwy gwrs neu ymchwil).

Gweithdrefn Apelio (Penderfyniadau Ymarfer Annheg)

Mae’r weithdrefn hon yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Ymchwilio a gynullwyd i ystyried honiad o Ymarfer Annheg.

Gweithdrefn Apelio (Penderfyniadau Addasrwydd i Ymarfer)

Mae’r weithdrefn hon yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad Pwyllgor ar Addasrwydd i Ymarfer.

Gweithdrefn Apelio (Penderfyniadau Derbyn)

Mae’r weithdrefn hon yn gymwys i ymgeiswyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad staff derbyn y Brifysgol.

CYFLWYNO APÊL

Gweler y Weithdrefn Apelio berthnasol am wybodaeth am sut i gyflwyno apêl i’r Brifysgol.

Nodwch serch hynny os ydych chi’n fyfyriwr mewn Canolfan Gydweithredol ac yn dymuno apelio, rhaid i chi wneud hynny’n gyntaf yn eich Canolfan, dan Gam 1 Gweithdrefn Apelio Prifysgol Cymru. Unwaith i chi gwblhau Gweithdrefn Apelio eich Canolfan, ac os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad eich apêl, gallwch gyflwyno apêl i Brifysgol Cymru dan Gam 2 y Weithdrefn Apelio.

Unwaith y byddwch chi’n barod i gyflwyno apêl i Brifysgol Cymru rhaid i chi gwblhau’r Ffurflen Apelio briodol a’i hanfon i apelioaccwyno@cymru.ac.uk. Rhaid cyflwyno pob apêl yn ysgrifenedig. I lawrlwytho Ffurflen Apêl dilynwch y dolenni isod:  

Gweithdrefn Apelio Prifysgol Cymru  
Gweithdrefn Apelio Prifysgol Cymru (Sefydliadau Achrededig a Sefydliadau Cyswllt)  
Gweithdrefn Apelio (Penderfyniadau Ymarfer Annheg)  
Gweithdrefn Apelio (Penderfyniadau Addasrwydd i Ymarfer)  
Gweithdrefn Apelio (Penderfyniadau Derbyn)  
Gweithdrefn Ymarfer Annheg  
Ffurflen Apêl Ymarfer Annheg  
Ffurflen Apêl Myfyrwyr (Cam 1)  
Ffurflen Apêl Myfyrwyr (Cam 2)  
Ffurflen Apêl Myfyrwyr (Sefydliadau Achrededig a Sefydliadau Cyswllt)  
Ffurflen Apêl Myfyrwyr (Dyfarniadau Ymchwil Cam 1)  
Ffurflen Apêl Myfyrwyr (Dyfarniadau Ymchwil Cam 2)