Skip page header and navigation

Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol

Content

Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol
Holder Image
Awdur/Golygydd Peter Lord
Cyhoeddwyd 2003
ISBN
0-7083-1802-9
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £30.00
Maint 240 x 290mm
Fformat Clawr caled/Hardback, 288tt./pp., 450 darlun lliw/colour illustrations

Yn y drydedd gyfrol – a’r olaf – yng Nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru canolbwyntir ar y cyfnod sy’n ymestyn o gwymp y llywodraeth Rufeinig yn y bumed ganrif hyd at gyfnod y Dadeni yn y bymthegfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Dengys y testun sut yr arweiniodd grymoedd economaidd, ynghyd â syniadau cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol, at greu delweddau yn sgil newidiadau mewn patrymau nawdd ac arferion gwaith. Ceir hefyd adran thematig sy’n disgrifio sut yr oedd cylch bywyd Iesu Grist, y Forwyn Fair a’r seintiau yn cynnig fframwaith i fywyd beunyddiol pobl drwy gydol yr Oesoedd Canol.

Ceir dros 450 o ddelweddau ac arteffactau mewn lliw llawn, llawer ohonynt wedi eu hatgynhyrchu am y tro cyntaf. Y mae’r llu gweithiau sydd i’w canfod mewn eglwysi ledled Cymru yn destun ffotograffau y comisiynwyd Charles a Patricia Aithie i’w tynnu ar gyfer y gyfrol hon.

Datgelir yn y gyfrol y cyfoeth rhyfeddol o ddelweddaeth ganoloesol sydd wedi goroesi yng Nghymru. Cynhyrchai rhai gweithdai a chrefftwyr waith cwbl arbennig, ac idiosyncratig ambell waith, ond eto i gyd yr oedd i ddiwylliant gweledol Cymru ei ran ym mhrif ffrwd y Byd Cristnogol Ewropeaidd. Yn wir, dengys y gyfrol fod noddwyr Cymru ar flaen y gad, o ran eu chwaeth, yn Nadeni y bymthegfed ganrif yng ngogledd Ewrop.

Y mae’r gyfrol yn cynnwys y penodau canlynol:

  1. Cymru a diwylliannau’r gorllewin
  2. Ailgyfeirio diwylliannol
  3. Tywysogion ac uchelwyr
  4. Y flwyddyn Gristnogol
  5. Duwioldeb a’r nawdd newydd

    Y mae fersiwn Saesneg  o’r gyfrol ar gael yn ogystal.