Student Complaints
Caiff unrhyw fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar raglen sy’n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru ddefnyddio Gweithdrefn Gwyno’r Brifysgol.
Mae’r weithdrefn yn cwmpasu llawer o feysydd o fewn profiad y myfyriwr a gallai fod yn berthnasol i gwynion yn codi o brofiad addysgol myfyriwr, cwynion mewn perthynas â chymorth academaidd neu weinyddol a honiadau o aflonyddu neu gamwahaniaethu gan staff.
Ym mhob achos byddai’r Brifysgol yn anelu at weld cwynion yn cael eu datrys o fewn sefydliad y myfyriwr gyda’r lefel isaf o ffurfioldeb. Os nad yw hyn yn bosibl fodd bynnag, dylid dilyn y weithdrefn hon.
CYFLWYNO CWYN
Os ydych chi’n dymuno cyflwyno cwyn i’r Brifysgol, rhaid i chi gwblhau’r Ffurflen Cyflwyno Cwyn a’i hanfon i apelioaccwyno@cymru.ac.uk
Nodwch nad yw’r weithdrefn hon yn gymwys i apelau yn erbyn penderfyniadau academaidd neu benderfyniad addasrwydd i ymarfer, sydd â gweithdrefnau Prifysgol Cymru ar wahân.