Cwestiynau Cyffredin
-
Wedi i’ch canlyniadau terfynol gael eu cadarnhau gan un o Fyrddau Arholi Prifysgol Cymru cânt eu cofnodi ar system cofnodion myfyrwyr y Brifysgol. Cewch eich derbyn i’ch dyfarniad in absentia ac anfonir eich tystysgrif ac Atodiad Diploma i’r Sefydliad lle buoch yn astudio.
-
Gyda’r Sefydliad sy’n darparu eich rhaglen astudio fydd eich prif berthynas. Byddant yn darparu llawlyfr myfyrwyr a deunydd cwrs i chi, fydd yn darparu’r rhaglen ac yn asesu eich astudiaethau. Byddant yn darparu’r cyfleusterau fydd eu hangen arnoch er mwyn astudio’n effeithiol ac yn eich cefnogi chi wrth i chi astudio.
Ar ddechrau eich rhaglen ddilysedig, bydd eich Sefydliad yn eich cofrestru chi gyda Phrifysgol Cymru. A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, byddwch:
- Yn astudio o dan Reoliadau a Gweithdrefnau Prifysgol Cymru
- Yn gwybod bod Prifysgol Cymru yn sicrhau ansawdd eich rhaglen
- Yn cael mynediad i amryw o wasanaethau Prifysgol Cymru
-
A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, bydd modd i chi:
- Defnyddio Llyfrgell Ar-lein Prifysgol Cymru sy’n cynnwys eLyfrau, eGyfnodolion a chronfeydd data o safon
- Cwrdd ag academyddion Prifysgol Cymru pan fyddant yn ymweld â’ch Sefydliad
- Cymryd rhan mewn Dathliad Graddio i ddathlu eich camp
- Dod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol
- Llenwi Arolwg Myfyriwr Rhyngwladol ar eich profiad astudio
- Gwneud cais i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar Bwyllgorau Prifysgol Cymru
-
Mae’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â theitheb. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Asiantaeth Ffiniau’r DU
-
Mae Prifysgol Cymru’n gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd – defnyddiwch yr adnodd Chwilio am Gwrs i weld os oes cwrs ar gael yn eich gwlad chi.
Mae cynlluniau astudio a restrir yma yn cael eu dilysu gan Brifysgol Cymru, ond cynghorir darpar fyfyrwyr i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r ganolfan gydweithredol am wybodaeth ynglŷn â dyddiadau derbyn myfyrwyr yn y dyfodol.
-
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl sefydliadau y mae’r Brifysgol yn gweithio gyda nhw ar ein gwefan trwy ddefnyddio’r adnodd Chwilio am Sefydliad
-
Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Cymru mewn perthynas â datblygiad y broses uno (gweler datganiad i’r wasg -Ymdeimlad o hanes, dechreuad newydd), rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr bryderon neu ymholiadau. Fel sy’n cael ei ddatgan yn gyson, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i ofalu am ein myfyrwyr a byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ddyfarniadau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd. Gall myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i helpu i ateb unrhyw gwestiynau gan fyfyrwyr sy’n dal i bryderu am y newidiadau hyn.
-
Unwaith i ni dderbyn eich manylion cofrestru (yn cynnwys eich cyfeiriad ebost) oddi wrth eich sefydliad, byddwch yn derbyn ebost gennym yn eich croesawu a fydd yn cynnwys eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad ebost) a chyfrinair i ddefnyddio’r Llyfrgell Ar-lein
-
Am wybodaeth ynglŷn â chanlyniadau eich gradd / traethawd hir, cysylltwch â’ch man astudio. Yn anffodus ni all y Brifysgol ddarparu eich canlyniadau trwy gyfrwng ebost nac ar y ffôn.
-
Os ydych chi wedi cwblhau cwrs dilysedig byddwch yn derbyn Atodiad Diploma yn awtomatig gyda’ch tystysgrif
-
Gallwch. Os yw eich tystysgrif wedi ei ddifrodi byddwn yn anfon tystysgrif amnewid am ddim ar dderbyn y gwreiddiol. Codir ffi o £30 i amnewid tystysgrifau coll.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
-
Dylech gysylltu â’r Sefydliad a ddarparodd eich cwrs.
-
Rhaglen a gynlluniwyd gan eich sefydliad chi ac a gyflwynwyd i’w chymeradwyo ger bron Prifysgol Cymru yw rhaglen ddilysedig. Mae Dilysu yn golygu bod eich rhaglen yn cyfateb o ran lefel a safon i raglenni tebyg a gynigir trwy’r sector addysg uwch yn y DU.
-
Mae gan Brifysgol Cymru ddull gweithredu penodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cwyn neu gyflwyno apêl academaidd.
Apeliadau gan Fyfyrwyr
Am ragor o wybodaeth ar y dull gweithredu, yn cynnwys meini prawf ac asesiad, neu i gyflwyno apêl cliciwch yma neu cysylltwch â appeals@cymru.ac.ukCwynion gan Fyfyrwyr
Fe ddylech geisio datrys unrhyw anawsterau’n uniongyrchol gyda’ch sefydliad ble bynnag y bo hynny’n bosib. Os nad yw hynny’n bosib, gellir defnyddio dull gweithredu Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol os ydych yn dymuno cwyno ynglŷn ag agweddau o’ch profiad astudio sydd ddim yn berthnasol i asesiad neu arholiadau. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma neu cysylltwch â complaints@cymru.ac.uk