Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol

Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol: astudiaeth ryngddisgyblaethol o ystyr wedi ei ymgorffori mewn lle a chynhyrchiant
Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol: astudiaeth ryngddisgyblaethol o ystyr wedi ei ymgorffori mewn lle a chynhyrchiant
Roedd Tirweddau Cysegredig yn brosiect a ariannwyd gan grant mawr gan Gyngor y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), rhan o Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI). Dechreuodd ym mis Ionawr 2019 a pharhaodd tan ddiwedd Ionawr 2023. Bu’r prosiect yn archwilio’r modd y ffurfiwyd y dirwedd o gwmpas mynachlogydd i adlewyrchu’r cysegredig, ac ymatebion deallusol ac emosiynol i natur a chynhyrchiant y tir ar ran y mynachod a’u partneriaid. Wrth wraidd y prosiect yr oedd astudiaethau cymharol o dirweddau hanesyddol dau o abatai Sistersaidd Cymru, sef Glyn-y-groes ac Ystrad Fflur, a chlwstwr o fynachlogydd yn swydd Lincoln.
Arweiniwyd y prosiect gan yr Athro David Austin (PCYDDS) fel Prif Ymchwilydd, ar y cyd â’r Cyd-ymchwilwyr, yr Athro Ann Parry Owen (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru), yr Athro Janet Burton (PCYDDS), a’r Athro Emilia Jamroziak (Prifysgol Leeds). Yn y Ganolfan, bu Dr Jenny Day yn gweithio gyda’r Athro Parry Owen i gynhyrchu golygiadau a chyfieithiadau newydd o’r cerddi a ganodd Gutun Owain i ddau o abadau Glyn-y-groes, Siôn ap Rhisiart a Dafydd ab Ieuan, ac i archwilio’r hyn y mae’r cerddi yn ei ddatgelu am yr abaty a’i ystad yng nghyd-destun ehangach tirwedd, diwylliant a hanes gogledd-ddwyrain Cymru.
Dengys y farddoniaeth fod Gutun Owain yn ymwelydd cyson â Glyn-y-groes ac yn nabod yr abaty a’r abadau’n dda:
Dafydd, i’w lys rydd yr af – i gwyno
Rhag annwyd y gaeaf;
Aur a gwin, bob awr a gaf
Is acr y Groes wresocaf.
(llinellau agoriadol un o awdlau Gutun i Ddafydd ab Ieuan)
Mae Gutun yn enwog am ei hoffer o wleddoedd yr abaty adeg y gwyliau mawr, ond yr oedd hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr y gwasanaethau crefyddol a welodd ac a glywodd yn eglwys yr abaty, fel y dengys ei farddoniaeth:
Naw o’i fynych, nef anant,
Naw carol nefol a wnânt;
Lleng o engylion y llys,
Llu i falu llef felys.
(llinellau o un o gywyddau Gutun i’r Abad Dafydd)
Roedd Gutun yn gyfarwydd â llawysgrifau’r abaty hefyd, fel bardd ac ysgolhaig ac iddo ddiddordeb arbennig mewn hanes, achyddiaeth a gramadegau barddol. Credir, er enghraifft, mai yng Nglyn-y-groes yr ysgrifennwyd Llyfr Du Dinas Basing, casgliad enwog o naratifau hanesyddol, gan Gutun ac ysgrifydd anhysbys arall.
Roedd y dirwedd o amgylch yr abaty yn gyfarwydd iawn i Gutun. Disgrifiodd leoliad Glyn-y groes Is Hyrddin … / A’i goed, gan gyfeirio at y bryn i’r gorllewin o’r abaty, a chrybwyllodd ‘Y Groes’ neu’r ‘Hen Groes’ yn arbennig o aml, gan gyfeirio at y gofeb a elwir heddiw yn Biler Eliseg. Roedd cysylltu’r abaty â’r ‘Hen Groes’ yn un o’r amrywiol ddulliau a ddefnyddiodd Gutun er mwyn amlygu lle pwysig cymuned Sistersaidd Glyn-y-groes o fewn tirwedd ddiwylliannol y gogledd-ddwyrain. Mae natur ac arwyddocâd y ffiniau rhwng yr abaty a’r byd y tu allan yn bynciau eraill a ystyrir gan waith Jenny Day, a chan gwaith aelodau eraill o dîm y prosiect hwn.
Gweler ymhellach:
Jenny Day, ‘ “The Houses of the Old Cross”: Valle Crucis Abbey in the poems of Gutun Owain, Cîteaux – Commentarii cistercienses, 73 (2023), pp. 255–75. ISSN 0009-7497.
Jenny Day, ‘ “Beuno tŷ Sain Bened”: seintiau a hunaniaeth yn y canu i’r abadau’, Dwned (i ymddangos)
Dolenni allanol:
Gwybodaeth am y prosiect ar wefan Prifysgol Leeds:
Gwybodaeth am y prosiect ar wefan yr AHRC (UKRI), gan gynnwys cyhoeddiadau eraill gan dîm y prosiect.
Dwy o lawysgrifau enwocaf Gutun Owain, wedi eu digideiddio ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: