Skip page header and navigation

‘Eu Hiaith a Gadwant’?: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif

Content

‘Eu Hiaith a Gadwant’?: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif 
Book cover of Eu Hiaith a Gadwant’?: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif
Awdur/Golygydd Geraint H. Jenkins
Cyhoeddwyd 2000
ISBN 0708316573
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£27.50
Maint 234 x 156mm
Fformat
Clawr papur/Paperback, xv+685

Hon yw’r chweched gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ynddi ceir y dadansoddiad manwl ac awdurdodol cyntaf o hynt yr iaith Gymraeg yn y cyfnod mwyaf cythryblus yn ei hanes. Yn yr un bennod ar hugain a gynhwysir yn y gyfrol trafodir nid yn unig ddirywiad y Gymraeg o safbwynt niferoedd a thiriogaeth, ond hefyd ei brwydr am gydnabyddiaeth a’i swyddogaeth mewn amrywiol feysydd. O’r holl ymadroddion cofiadwy a fathwyd yn yr ugeinfed ganrif y mwyaf arwyddocaol o ddigon i’r siaradwr Cymraeg yw ‘Tynged yr Iaith’, ac y mae’r gyfrol hon yn cynnig sylwebaeth gyffrous ar y prosesau o newid, o ddirywiad ac o adfywiad a brofwyd gan yr iaith fyw hynaf ym Mhrydain.

Y mae fersiwn Saesneg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: Let’s Do our Best for the Ancient Tongue.