Content
06: Gwaith Siôn Ceri
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | A. Cynfael Lake |
Cyhoeddwyd | 1996 |
ISBN | 0947531599 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xviii+250 |
Cyhoeddir yma am y tro cyntaf waith Siôn Ceri, sef Siôn ab y Bedo ap Deio Fychan, bardd pur gynhyrchiol y tybir iddo ymsefydlu yng nghwmwd Ceri gan mai wrth yr enw Siôn Ceri y’i hadwaenir yn ddieithriad yn y llawysgrifau sy’n cynnwys ei waith.
Diogelwyd trigain o’i gerddi, yn gywyddau, yn awdlau ac yn englynion. Er iddo ganu dyrnaid o gywyddau serch a chywyddau crefyddol, ei waith pwysicaf yw’r 50 a rhagor o gywyddau ac awdlau defodol a luniwyd ganddo rhwng tua chanol ugeiniau’r unfed ganrif ar bymtheg a chanol y pedwar-degau. Dengys y rhain iddo ymweld â 37 cartref ac iddo gyfarch 42 uchelwr, a thrigai’r rhan fwyaf o fewn cyrraedd hwylus i Geri, yn Llanbryn-mair, Carno, Mochdre, Llanllwchaearn, Llandysul, y Trallwng, a thros y ffin yn yr Ystog a Chroesoswallt. At hyn, ymwelodd â noddwyr mewn rhannau eraill o Gymru, ond i gyfnod cynnar yn ei yrfa y perthyn ei ganu i Domas Pennant, abad Dinas Basing, Robert ap Rhys o Blas Iolyn, a’i farwnad i Syr Rhys ap Tomas, a diau mai yn rhinwedd ei gyswllt â’i athro, Tudur Aled, y cafodd droedle yng nghartrefi’r uchelwyr hyn.
Tystia ei waith i barhad a ffyniant y canu traddodiadol yn y Canolbarth, ond nid llai arwyddocaol yw’r hyn a awgrymir am yr hinsawdd gymdeithasol – yr ansefydlogrwydd a’r gwrthdaro, a’r rheidrwydd i ymgynnal trwy rym arfau – yn y rhan hon o Gymru ar drothwy’r Deddfau Uno.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com