Content
07: Gwaith Dafydd Gorlech
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Erwain H. Rheinallt |
Cyhoeddwyd | 1997 |
ISBN | 0947531548 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xiv+105 |
Cyhoeddir yma am y tro cyntaf waith Dafydd Gorlech, bardd brudiol a ganai yn fras rhwng tua 1466/70 a thua 1490. Cysylltid ef, yn ôl pob tebyg, ag Abergorlech, plwyf gynt yng nghwmwd Caeo, y Cantref Mawr. Yr oedd yn fardd dysgedig iawn, ac y mae ei waith yn gyforiog o fotiffau a themâu brudiol yn ogystal â chyfeiriadau at destunau brudiol o’r gorffennol.
Cadwyd saith cywydd yn unig o’i waith yn y llawysgrifau, rhan fechan iawn, mae’n sicr, o’i gynnyrch barddol. Dau gywydd yn unig a gysylltir â noddwyr, y ddau yn gywyddau brud ar ffurf cywyddau gofyn, gydag un ohonynt wedi ei ganu i Syr Rhosier Fychan, yr Iorciad dylanwadol iawn o Dretŵr, yn gofyn march iddo ar ran Morys Fychan. Y mae’r cerddi eraill yn fwy cyffredinol eu cynnwys, gyda chymysgedd o gyfeiriadau brudiol penodol ac amhenodol.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com