Content
08: Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac Eraill
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Rhiannon Ifans, Ann Parry Owen, W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt |
Cyhoeddwyd | 1997 |
ISBN | 0947531645 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xvii+165 |
Cynhwysir yn y gyfrol hon waith pum bardd a hanai o Fôn neu Arfon: Gronw Gyriog, ei fab Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruffudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu. Canodd y tri cyntaf yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a dichon i Gruffudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu ganu yn ail hanner yr un ganrif. Ceir yma amrywiaeth ddiddorol o gerddi: ceir cerdd fawl i Fadog ab Iorwerth o Goedymynydd, Esgob Bangor; dwy gerdd farwnad i Wenhwyfar wraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Goedan ym Môn, gwraig fonheddig a hanai o deulu brenhinol Powys ac a gladdwyd yn nhŷ’r Brodyr Llwydion yn Llan-faes; awdl i Dduw; englynion dychan enigmatig i fardd ffals, yn ei rybuddio rhag dod ar gyfyl Môn; awdl yn sôn am freuddwyd a gafodd bardd hyddysg yng ngweithiau beirdd a rhyddieithwyr yr Oesoedd Canol; a chywydd naratif dychanol i gelffaint. Cynhwysir hefyd ddwy gerdd a gambriodolwyd i Iorwerth ab y Cyriog: y naill yn honni bod yn gywydd marwnad i Einion ap Seisyll a fu farw tua dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, a’r llall yn gywydd yn dychanu tŷ oer ei groeso yr ymwelodd y bardd ag ef yn Nrws-y-nant.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com