Skip page header and navigation

09: Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug

Content

09: Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug
Holder Image
Awdur/Golygydd R. Geraint Gruffydd a Rhiannon Ifans
Cyhoeddwyd 1997
ISBN 0947531106
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat
Clawr papur/Paperback, xvi+203

Cyflwynir yn y gyfrol hon gynnyrch barddol dau ŵr y cysylltir eu henwau â gramadeg y beirdd, sef Einion Offeiriad a gofir yn bennaf fel awdur fersiwn cyntaf y gramadeg a gyfansoddwyd tua 1320–5, a Dafydd Ddu o Hiraddug a olygodd y gramadeg hwnnw’n fuan wedyn. Yr unig gerdd a briodolir gyda sicrwydd i Einion yw awdl fawl faith ac astrus i’r Arglwydd Rhys ap Gruffudd, wedi ei chanu iddo, yn ôl pob tebyg, tua’r un pryd ag y cyfansoddodd ei ramadeg. Y mae’n awdl hynod iawn, a chynhwysir ynddi bob un o’r deuddeg mesur awdl a ddisgrifiodd Einion yn ei ramadeg, yn ogystal â thri englyn unodl union.

Cadwyd pedair cerdd wrth enw Dafydd Ddu o Hiraddug, gan gynnwys dau gywydd crefyddol ac addysgol – y naill yn amcanu dysgu Hanes yr Iachawdwriaeth, a’r llall yn amcanu dysgu’r Deg Gorchymyn. Y mae peth tystiolaeth i awgrymu bod Dafydd Ddu wedi ei ddyrchafu yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Llanelwy, gyda chyfrifoldeb felly am ei hysgol: byddai’r cywyddau hyn yn gweddu’n burion i’r swydd honno. Awdl yw’r drydedd o’i gerddi, yn fyfyrdod estynedig ar ddiflanedigrwydd gogoniant dyn, ar dynged arswydus ei gorff yn y bedd, a’r bygythiad am farn fwy erchyll fyth i ddod – themâu a ddaw’n amlwg yn y bymthegfed ganrif yng ngwaith Siôn Cent yn arbennig. Englyn serch gwahanol iawn ei naws a ddyfynnir yn y gramadeg yw’r bedwaredd gerdd o’i eiddo, yn moli merch fonheddig ddienw.

Cynhwysir yn y gyfrol yn ogystal yr holl ddarnau enghreifftiol a geir yn amrywiol fersiynau’r gramadegau – nifer mawr iawn ohonynt yn ddienw, ond rhai ohonynt bron yn sicr wedi eu cyfansoddi gan Einion Offeiriad neu Ddafydd Ddu.

Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com