Content
10: Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Dafydd Johnston |
Cyhoeddwyd | 1998 |
ISBN | 0947531157 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xiv+121 |
Cynhwysir yn y gyfrol hon saith awdl a phum cywydd wedi eu priodoli i’r uchelwr o fardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, a ganai rhwng tua 1350 a 1390. Y mae amrywiaeth ei ganu yn ei gysylltu â dwy ffrwd y traddodiad barddol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, sef, ar y naill law, â chanu’r Gogynfeirdd diweddar a oedd yn dal i gyfansoddi awdlau yn nhraddodiad Beirdd y Tywysogion, ac ar y llaw arall â chanu’r Cywyddwyr a oedd yn canu ar bynciau newydd a ffres. At ei gilydd defnyddiodd Llywelyn yr awdl ar gyfer canu mawl traddodiadol, a’r cywydd ar gyfer canu serch a mawl mwy personol. Ei gerdd enwocaf, mae’n sicr, yw ei gywydd marwnad i Leucu Llwyd o Bennal ym Meirionnydd, ac yma gwelwn ddyfeisgarwch Llywelyn drwy ei ddefnydd o gonfensiwn y serenâd. Hanai Llywelyn o sir Feirionnydd, ac yr oedd cyswllt agos rhyngddo a theulu Nannau. Meddai Saunders Lewis amdano, ‘Cymeriad hynod oedd …, uchelwr annibynnol diofn, beiddgar ac ynddo ysbryd arloeswr a balchder bonedd’. Awgrymwyd mai Llywelyn Goch a’i gyfaill Iolo Goch oedd yn bennaf cyfrifol am arloesi ar fesur cywydd yng ngogledd Cymru, gan ddilyn arweiniad Dafydd ap Gwilym yn y de.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com