Content
11: Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd ‘Sypyn Cyfeiliog’ a Llywelyn ab y Moel
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | R. Iestyn Daniel |
Cyhoeddwyd | 1998 |
ISBN | 0947531505 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xvii+223 |
Gwaith dau fardd a ganai ym Mhowys yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed a gynhwysir yn y gyfrol hon. Cadwyd saith o gerddi Dafydd Bach ap Madog Wladaidd, neu Sypyn Cyfeiliog fel y’i gelwir gan amlaf, yn cynnwys pedwar cywydd serch, un englyn moesegol, un cywydd yn moli Harri Salsbri a’i wraig Annes Cwrtes o Leweni, ac un awdl i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelltref. Cynhwyswyd darn o’r awdl hon yn Llyfr Coch Hergest, ac ynddi cawn ddisgrifiad godidog o’r croeso a geid yn llys Dafydd ym Machelltref – llys llawn diwylliant a hwyl, gyda digonedd o ddiod a bwydydd o bob math.
Yr oedd Llywelyn ab y Moel neu Lywelyn ap Moel y Pantri yn fab i fardd ac yr oedd ei fab, Owain ap Llywelyn, yntau’n fardd y cadwyd i ni nifer o’i gywyddau. Credir mai yn Llanwnnog yn Arwystli y magwyd Llywelyn, ond y mae nifer o’i gerddi yn ei gysylltu â’r ardal ffiniol honno rhwng siroedd Trefaldwyn ac Amwythig. Ymddengys iddo ymuno â rhengoedd Glyndŵr yn gynnar yn ei yrfa, ac yn un o’i gerddi y mae’n sôn am ei brofiadau fel herwr yng nghwmni herwyr eraill yng Nghoed y Graig Lwyd, ychydig i’r de o Groesoswallt. Ceir ganddo hefyd gywyddau i’r bedlwyn, i’w bwrs, i’w dafod ac i’w farf (gyda chyfeiriadau at ei gariad Euron), tri chywydd ymryson pwysig rhyngddo a Rhys Goch Eryri, ac englynion i Fair ac i Iesu Grist.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com