Skip page header and navigation

20: Gwaith Dafydd Epynt

Content

20: Gwaith Dafydd Epynt
Holder Image
Awdur/Golygydd Owen Thomas
Cyhoeddwyd 2001
ISBN 0 947531 51 3
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xx+214
 

Bardd o Frycheiniog oedd Dafydd Epynt a ganai yn ail hanner y bymthegfed ganrif a dechrau’r ganrif ganlynol. Y mae ei gerddi yn ei gysylltu’n arbennig â’r ardal o gwmpas Aberhonddu a’r Fenni, a chanodd fawl a marwnad i rai o brif deuluoedd yr ardal honno, yn cynnwys aelodau o deuluoedd yr Hafardiaid a’r Herbertiaid. Canodd hefyd gerdd i Gynog, nawddsant yr eglwys ym Merthyr Cynog, a cherdd i Gathen Sant yn ymbil arno i’w wella rhag clefyd y deirton (sef math o falaria). Nodwedd bwysig ar waith Dafydd Epynt yw’r ffaith fod testun y mwyafrif o’i gerddi wedi ei gofnodi ganddo ef ei hun yn y llawysgrifau.