Skip page header and navigation

2010: Rhai Addasiadau Cymraeg Canol o Sieffre o Fynwy

Content

2010: Rhai Addasiadau Cymraeg Canol o Sieffre o Fynwy
Holder Image
Awdur/Golygydd Patrick Sims-Williams
Cyhoeddwyd 2011
ISBN
9781907029080
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £5.00
Maint 210 x 138 mm
Fformat  Clawr papur/Paperback, 60tt./pp

Mae cyfieithiadau o ‘Hanes’ Sieffre o Fynwy ymhlith y cyfrolau Cymraeg Canol cynharaf, tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg. O hynny ymlaen hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol dyma un o’r testunau amlycaf yn y llawysgrifau sydd wedi goroesi. Yn y ddarlith hon mae Patrick Sims-Williams yn trafod pwrpas y cyfieithiadau a’u perthynas â’i gilydd, gan ganolbwyntio ar fersiynau sydd heb eu cyhoeddi.