Skip page header and navigation

23: Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled

Content

23: Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled
Holder Image
Awdur/Golygydd M. Paul Bryant-Quinn
Cyhoeddwyd 2003
ISBN 0 947531 81 5
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xxii+207
 

Yn y bymthegfed ganrif yr oedd Dyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd a’u cyffiniau ymhlith ardaloedd mwyaf llenyddol effro Cymru. Yn ogystal â’r beirdd proffesiynol, ceid yma nifer o uchelwyr a ymddiddorai yn y grefft farddol ac yn y gyfrol hon golygir gwaith tri ohonynt. Yr oedd Ieuan ap Llywelyn Fychan yn fardd-uchelwr a gyfarchwyd gan Dudur Aled fel ‘athro’. Perthynas i Dudur oedd Lewys Aled, yntau’n uchelwr o bwys. Serch yw testun y ddau fardd hyn. Ceir gan Ieuan Llwyd Brydydd gerddi amrywiol a diddorol i rai o brif noddwyr gogledd Cymru. Fel y dywedodd Thomas Parry, ymwneud gwŷr fel y rhain â’r gelfyddyd farddol ynghyd â chywreinrwydd a glendid eu crefft ‘… sy’n gwneuthur cyfnod yr uchelwyr yn gyfnod mor wych, os nad y gwychaf oll, yn hanes llenyddiaeth Cymru’.