Content
24: Gwaith Gruffudd ap Maredudd: I – Canu i deulu Penmynydd
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Barry J. Lewis |
Cyhoeddwyd | 2003 |
ISBN | 0 947531 27 0 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xvii+171 |
Un o’r olaf o’r Gogynfeirdd ac un o’r mawrion’. Y mae geiriau Saunders Lewis yn disgrifio i’r dim le Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bardd ydoedd a gydiodd yn nhraddodiadau ei ragflaenwyr yn llysoedd y Tywysogion a’u datblygu ar gyfer oes newydd. Blodeuai Gruffudd ym Môn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cedwir swmp helaeth o’i waith yn Llyfr Coch Hergest, yn ganu mawl a marwnad, ac yn ganu crefyddol, serch a dychan. Golygir yn y gyfrol hon saith o gerddi mawl a marwnad a ganodd i aelodau o deulu Penmynydd, tylwyth pwysicaf yr ynys yn ei ddyddiau ef a noddwyr i nifer o feirdd blaenllaw y cyfnod, yn eu plith Iolo Goch a Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Ceir yma hefyd awdl fawl i noddwr anhysbys sydd, yn ôl pob tebyg, i’w gyfrif yn aelod o’r un teulu.