Skip page header and navigation

25: Gwaith Ieuan ap Rhydderch

Content

25: Gwaith Ieuan ap Rhydderch
Holder Image
Awdur/Golygydd R. Iestyn Daniel
Cyhoeddwyd 2003
ISBN
0 947531 07 6
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xviii+231
 

Bardd o’r bymthegfed ganrif, a hanai o Geredigion ac a ganai ‘ar ei fwyd ei hun’, oedd Ieuan ap Rhydderch. Erys ar glawr un ar ddeg o’i gerddi, yn gywyddau, awdlau, ac un englyn, ar themâu serch, gorhoffedd, darogan, bwyd, crefydd, a dychan. Dewisodd ddilyn gyrfa eglwysig, gan fwynhau’r fraint o astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle y derbyniodd raddau BA, MA a Doethur yn y Gyfraith. Am resymau anhysbys, fodd bynnag, troes wedyn at yrfa secwlar, gan ddal amryw o wahanol swyddi a chanu llawer o gerddi. Yr hyn a rydd ddiddordeb arbennig iddo fel bardd yw dylanwad y profiad o’r byd rhyngwladol ehangach a gafodd yn y brifysgol ar ei ganu, sy’n dangos cyfuniad trawiadol o grefft geidwadol ddi-feth a themâu newydd arloesol.