Content
28: Gwaith Lewys Morgannwg I
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | A. Cynfael Lake |
Cyhoeddwyd | 2004 |
ISBN | 0 947531 521 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, viii+384 |
Er na chafodd Lewys Morgannwg (fl. c.1523–55) ryw lawer o sylw gan haneswyr llên yr oedd yn ddiamau yn un o feirdd pwysicaf a mwyaf cynhyrchiol ei oes. Perthynai i deulu o brydyddion (yr oedd ei dad a’i daid, ei ewythr a’i gefnder, yn feirdd) a diogelwyd rhagor na chant o’i gerddi yn y llawysgrifau – y rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau mawl a marwnad. Bu’n ‘athro cerdd dafod o fewn siroedd a thaleithiau Cymru’ ac ef a lofnododd drwydded Gruffudd Hiraethog pan raddiodd hwnnw yn ddisgybl pencerddaidd. Yr oedd i’w noddwyr le amlwg a blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Cymru ac nid rhyfedd i G. J. Williams ei ddisgrifio fel ‘cyfaill yr awdurdodau gwladol’.