Skip page header and navigation

29: Gwaith Lewys Morgannwg II

Content

29: Gwaith Lewys Morgannwg II
Holder Image
Awdur/Golygydd Barry J. Lewis
Cyhoeddwyd 2004
ISBN 0 947531 572
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xix+229

Dyma’r ail gyfrol o waith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, y Gogynfardd diweddar o Fôn a flodeuai yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac ynddi golygir ei gerddi crefyddol i gyd. Y mae i Ruffudd le pwysig iawn yn hanes canu crefyddol yn y Gymraeg, nid yn unig oherwydd swmp y deunydd dan ei enw (golygir dros fil o linellau yn y gyfrol hon) ond hefyd oherwydd amrywiaeth ac amlochredd ei destunau. Ceir yma gerddi penydiol dwys ochr yn ochr â molawdau llawen i Dduw; awdlau i’r Forwyn Fair; englynion am y tri gŵr doeth a’r pedwar efengylydd; a gweddi rymus ar i Dduw achub Gwynedd rhag ymosodiad y Pla Du. Y mae ei awdl hirfaith a mawreddog i’r Grog o Gaer yn gampwaith: dyma, yn sicr, un o gerddi mwyaf uchelgeisiol y cyfnod. Ceir yn y gyfrol ragymadrodd manwl sy’n gosod canu crefyddol y bardd yng nghyd-destun Catholigiaeth yr Oesoedd Canol Diweddar.