Skip page header and navigation

31: Gwaith Llawdden

Content

31: Gwaith Llawdden
Holder Image
Awdur/Golygydd R. Iestyn Daniel
Cyhoeddwyd 2006
ISBN 0 947531 77 7
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat
Clawr papur/Paperback, xx+287

Blodeuai Llawdden yng nghanol y bymthegfed ganrif a bu’n clera yng nghanolbarth Cymru, yn y de-ddwyrain a’r Gororau. Dengys ei waith feistrolaeth gyflawn ar gerdd dafod draddodiadol ac yr oedd yn enwog am safon a chywirdeb ei ganu. Cywyddau yw’r rhan fwyaf o’r cerddi sydd wedi eu priodoli iddo a chanodd ar themâu megis moliant, serch, crefydd, gofyn a diolch. Y mae rhai o’i ddisgrifiadau o anifeiliaid a gwrthrychau eraill yn gofiadwy iawn ac ymdeimlir yn ei waith â phersonoliaeth ddiddan a hyderus.