Skip page header and navigation

32: Gwaith Madog Dwygraig

Content

32: Gwaith Madog Dwygraig
Holder Image
Awdur/Golygydd Huw Meirion Edwards
Cyhoeddwyd 2007
ISBN 0947531874
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xviii+159

Bardd o Benllyn oedd Madog Dwygraig a ganai yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn ogystal ag awdlau mawl a marwnad a cherddi crefyddol a chyffesol dwys, ceir ganddo gorff helaeth o ganu dychan amharchus sy’n golygu ei fod yn un o feirdd pwysicaf y traddodiad dychan Cymraeg. Dychanodd glerwyr, gwrach a gwëydd ymhlith eraill, a chanodd ddwy awdl nodedig sy’n fwy storïol eu naws. Y mae’r naill yn melltithio merch a ysbeiliodd ei goeden afalau, a hynny ar ffurf parodi beiddgar o ‘Afallennau’ Myrddin, a’r llall yn dychanu llo a dderbyniodd y bardd yn rhodd. Trôi Madog yn yr un cylchoedd ag Iolo Goch, ac er nad oes yr un o’r cerddi a ddiogelwyd yn Llyfr Coch Hergest ar fesur cywydd, y mae ei ddyfeisgarwch, ei hiwmor a’i hoffter o naratif yn dwyn i gof farddoniaeth ddiddanol y Cywyddwyr cynnar.