Content
34: Gwaith Llywelyn ap Gutun
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | R. Iestyn Daniel |
Cyhoeddwyd | 2006 |
ISBN | 0947531238 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xviii+167 |
Yn ail hanner y bymthegfed ganrif y canai Llywelyn ap Gutun, bardd dawnus, llawn dychymyg, a gysylltir â gororau gogledd-ddwyrain Powys. Er mai telynor ydoedd wrth ei alwedigaeth, troes ei law at farddoni yn ogystal ac y mae deunaw o’i gerddi wedi goroesi. Dychan ac ymryson yw ei brif themâu, ond ceir ganddo hefyd gerddi gofyn a serch, a marwnad rymus ar farwolaeth ei fab ifanc. Heblaw canu’r delyn a chlera, bu’r cymeriad eofn ond byrbwyll hwn yn crwydro Cymru benbaladr yn cymhortha am ŵyn a phethau eraill ac y mae’r profiadau a’r anturiaethau a gafodd yn ychwanegu at ddiddordeb a difyrrwch ei gerddi.