Skip page header and navigation

35: Gwaith Madog Benfras ac Eraill o Feirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg

Content

35: Gwaith Madog Benfras ac Eraill o Feirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg  
Holder Image
Awdur/Golygydd Barry J. Lewis
Cyhoeddwyd 2007
ISBN 9780947531386
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xxiv+385

Casgliad o farddoniaeth amrywiol o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a geir yn y gyfrol hon. Yr oedd Madog Benfras yn gyfaill i Ddafydd ap Gwilym ac fel ef yn fardd serch medrus. Tystia’r saith o gerddi dan ei enw i fywiogrwydd y canu serch yn y ganrif hon, fel hefyd gywyddau Rhys ap Tudur i fis Mai a Gronw Ddu i’r tŷ yn y llwyn. Gwahanol iawn yw’r canu crefyddol a gynhwysir yma, sef dwy awdl gyffes, rhybudd yn erbyn pechod a thraethiad hir ar waith chwe diwrnod y creu. Bydd y darllenydd hefyd yn ymglywed â chŵyn ysgytwol bardd a gollodd bump o blant i’r Pla Du, ac yn cael cipolwg ar helyntion y beirdd crwydrol gan y clerwr Iocyn Ddu ab Ithel Grach. Ceir yma hefyd ganu mawl a marwnad, gan gynnwys cywydd a ganwyd, yn ôl pob tebyg, i un o gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel. Yng ngwaith Yr Ustus Llwyd cedwir dwy o’r cerddi dychan mwyaf dyfeisgar (a maleisus) yn y Gymraeg, a chynrychiolir y canu brud gan gywydd dienw a all berthyn i gyfnod Owain Lawgoch.