Content
36: Gwaith Rhys Goch Eryri
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Dylan Foster Evans |
Cyhoeddwyd | 2007 |
ISBN | 978-0-947531-97-3 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xxii+294 |
Yr oedd Rhys Goch Eryri o Nanmor ger Beddgelert yn un o feirdd pwysicaf Cymru yn ystod y blynyddoedd wedi methiant gwrthryfel Glyndŵr. Bu un o’i hynafiaid yn teithio ar gyfandir Ewrop yn aelod o lys y brenin Edward I, a chrwydrodd Rhys Goch yntau o Fôn i Went gan ymweld â chanolfannau nawdd ymhlith y pwysicaf yn hanes barddoniaeth Gymraeg, megis y Penrhyn, Llandygái a Rhaglan. Canai ar drothwy oes aur Beirdd yr Uchelwyr, ac y mae ei farddoniaeth yn ddrych i’r cymhlethdodau diwylliannol a gwleidyddol a nodweddai Gymru ar ddechrau’r bymthegfed ganrif. Y mae ei ymateb i gerddi gan Lywelyn ab y Moel a Siôn Cent o bwysigrwydd sylfaenol wrth olrhain syniadaeth ei oes am darddiad a diben barddoniaeth Gymraeg. Nid oedd ychwaith yn brin o synnwyr digrifwch, a dengys ei waith ei barodrwydd i chwerthin am ei ben ei hun yn ogystal â dychanu eraill. Er mai cymharol fychan yw maint ei gynnyrch, dyma fardd sy’n dangos cyfoeth amrywiol y cyfnod ar ei orau.