Content
37: Gwaith Gruffudd Gryg
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Barry J. Lewis ac Eurig Salisbury |
Cyhoeddwyd | 2010 |
ISBN | 978-0-947531-78-2 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xix+223 |
Un o feirdd y cywydd oedd Gruffudd Gryg, a chanai yn yr un cyfnod â’i gyfaill a’i wrthwynebydd Dafydd ap Gwilym, sef tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae’r ddau gyd-olygydd yn credu’n gryf fod Gruffudd Gryg yn haeddu cael ei gydnabod, nid fel cocyn hitio i’w gyfoeswr enwocach yn yr ymryson adnabyddus a fu rhyngddynt, ond fel bardd mentrus, ffraeth ac amryddawn yn ei rinwedd ei hun. Ceir yn y gyfrol hon rai o’r cywyddau hynotaf a luniwyd erioed, megis y cerddi a ganodd Gruffudd i’r lleuad ac i’r don tra oedd ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen, y cywydd cymod cyntaf a’r cywydd mawl cyntaf i fro sydd ar glawr (i Ynys Môn, man geni’r bardd), ac yn enwedig y ddwy farwnad soffistigedig ac amlhaenog a gyflwynodd Gruffudd i Ddafydd ap Gwilym. A gladdwyd Dafydd mewn gwirionedd dan ywen yn Ystrad-fflur, fel yr honna Gruffudd? Ceir ymdriniaeth newydd â’r pwnc yn y gyfrol hon. Nid dyna’r unig gwestiwn pigog a gaiff sylw ychwaith: dadleuir bod yn rhaid ailystyried o’r cwr natur ac arwyddocâd yr ymryson a fu rhwng y ddau fardd. Gwelir yma hefyd ganu mawl, canu crefyddol a chanu serch, a chyfres o englynion enigmatig sy’n ymwneud ag achos llys yn sir Gaerfyrddin.