Skip page header and navigation

39: Gwaith Raff ap Robert

Content

39: Gwaith Raff ap Robert
Holder Image
Awdur/Golygydd A. Cynfael Lake
Cyhoeddwyd 2013
ISBN 978-1-907029-05-9
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xv+155

Yn ôl Siôn Tudur, gŵr ‘tiriog’ a oedd yn canu ‘ar ei fara ei hun’ oedd Raff ap Robert o blwyf Llanynys yng nghantref Dyffryn Clwyd, a diau fod a wnelo hynny â phynciau ac â daearyddiaeth y cerddi a gynullwyd ac a olygwyd yn y casgliad hwn. Gwelir bod y rhan fwyaf o’r canu yn perthyn i ddyffryn afon Clwyd a’r cyffiniau. Un gerdd foliant sydd yma ond ceir sawl marwnad, ac yn eu plith un i Dudur Aled ac un arall i Siôn Salbri, gŵr cyntaf Catrin o Ferain. At hyn, diogelwyd un cywydd serch ac un cywydd defosiynol yn ogystal â lliaws o englynion, rhai yn ddwys, eraill yn ysgafn a hwyliog eu cywair. Bu Raff yn ymwneud â beirdd a cherddorion ei oes, ac yn ymryson â dau mor wahanol i’w gilydd â Siôn Tudur a Robin Clidro.