Content
41: Gwaith Ieuan Gethin
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Ann Parry Owen |
Cyhoeddwyd | 2013 |
ISBN | 978-1-907029-11-0 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xviii+189 |
Bardd-uchelwr o Faglan ger Abertawe oedd Ieuan Gethin (fl. 1405–61), gŵr a gymerodd ran yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr ym Morgannwg yn negawd cyntaf y bymthegfed ganrif. Deg cerdd yn unig a gadwyd wrth ei enw, ond y mae amrywiaeth ei bynciau yn fawr, a chawn ganddo arlwy gwahanol i’r cerddi mawl a marwnad arferol a gynhyrchai ei gyfoeswyr proffesiynol. Ceir yma sawl cerdd storïol lawn hiwmor a ffraethineb, lle y mae’n ei bortreadu ei hun fel hen ddyn y daw troeon trwstan i’w ran: lladron yn difa ei nythod gwenyn gwyllt, llwynog yn dwyn yr ŵydd y bu’n ei phesgi at y Nadolig, a’i brofiad poenus yn dal clefyd gwenerol ar ôl cyfathrach â merch hardd. Yn y casgliad hefyd ceir dwy gerdd bwysig i Owain Tudur o linach Penmynydd Môn (taid Harri VII) a dwy gerdd ddirdynnol a gyfansoddodd Ieuan yn sgil marwolaeth ei ferch a’i fab, Siôn, o’r pla du. Gallwn uniaethu’n llwyr â’i alar yn y cerddi hyn, ymatebion cwbl bersonol sydd yn rhydd o gonfensiynau arferol y canu marwnad.