Skip page header and navigation

Iechyd a Diogelwch

Polisi Iechyd a Diogelwch

Mae Prifysgol Cymru’n cymryd ei chyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch o ddifrif a cheir polisi ysgrifenedig sy’n amlinellu ein hymrwymiadau a’n strategaethau i sicrhau amgylchedd diogel. Caiff y polisi ei adolygu’n flynyddol a’i ddiweddaru’n unol ag ymarfer gorau ac er mwyn rheoli gwybodaeth newidiol am faterion yn ymwneud â iechyd a diogelwch.

Yr egwyddorion allweddol yw ein bod yn cymryd pob cam ymarferol rhesymol i hyrwyddo a chynnal diwylliant diogelwch cadarnhaol a safonau diogelwch uchel. Mae hyn yn cynnwys rheoli risg, gwybodaeth, hyfforddiant a goruchwylio priodol.

Rydym ni hefyd yn cydnabod bod rheolaeth iechyd a diogelwch effeithiol yn dibynnu ar ymrwymiad, cydweithio ac ymdrech gan bawb. Mae gan yr holl staff, contractwyr ac ymgynghorwyr ddyletswydd i ofalu am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain, heb beryglu eraill a chydweithredu’n llawn gyda threfniadau iechyd a diogelwch y Brifysgol.

I wybod rhagor am y modd y caiff Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol ei strwythuro, ei reoli a’i weithredu, darllenwch y Polisi Iechyd a Diogelwch.