Content
An Atlas for Celtic Studies: Archaeology and Names in Ancient Europe and Early Medieval Britain and Brittany
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | John T. Koch |
Cyhoeddwyd | 2007 |
ISBN | 978-1-84217-309-1 |
Cyhoeddwr | Oxbow Books & Celtic Studies Publications |
Pris | £50 |
Maint | 342 x 242 mm |
Fformat | Clawr caled/Hardback, 224tt./pp., 64tt./pp. mapiau lliw llawn/full colour maps |
Y mae An Atlas for Celtic Studies yn gyfeirlyfr unigryw a chynhwysfawr sy’n cyflwyno llawer iawn o wybodaeth ynghylch y Celtiaid yn Ewrop ar ffurf mapiau manwl. Ceir yn yr Atlas filoedd o enwau lleoedd ac enwau grwpiau Celtaidd, yn ogystal ag arysgrifau Celtaidd a mathau eraill o dystiolaeth ieithyddol fapiadwy. Nod yr Atlas yw cyflwyno darlun eang ond manwl sy’n dangos y berthynas ddaearyddol rhwng y dystiolaeth ieithyddol a’r dystiolaeth ddiwylliannol anieithyddol fel bod darllenwyr yn gallu dilyn eu trywydd eu hunain o ran ymchwilio a dehongli. Y mae’r Atlas yn cynnwys 64 tudalen o fapiau lliw ynghyd â thestun esboniadol, trafodaeth ddamcaniaethol, llyfryddiaeth a mynegai. Y mae hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sy’n astudio’r Celtiaid.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com