Datganiad Cenhadaeth y Ganolfan
Ein Gweledigaeth
I fod yn ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf yn fyd-eang ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd sy’n
gwneud cyfraniad arbennig i fywyd cenedlaethol Cymru ac yn meithrin cysylltiadau rhwng y diwylliannau Celtaidd
Ein Cenhadaeth
Amcanion y Ganolfan yw:
- Datblygu dealltwriaeth o’r diwylliannau Celtaidd trwy gynnal rhaglenni ymchwil arloesol a lledaenu’r canfyddiadau i’r cyhoedd
- Cefnogi’r cyhoedd, addysgwyr, gwneuthurwyr polisi a’r cyfryngau, yn ogystal ag arbenigwyr, trwy gynnig adnoddau awdurdodol a gwybodaeth arbenigol am Astudiaethau Celtaidd a’r iaith Gymraeg
- Cynnal y Gymraeg yn iaith hyfyw trwy archwilio ei datblygiad, gosod ei safonau, a hyrwyddo ei defnydd fel cyfrwng ysgolheictod a thrafodaeth ddeallusol
- Datblygu arbenigedd i’r dyfodol mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd trwy gyfrannu at ddysgu is-raddedigion, hyfforddi ôl-raddedigion a darparu cyfleoedd ymchwil ôl-ddoethurol, yn annibynnol ac mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y byd
- Cryfhau’r cysylltiadau rhwng y diwylliannau Celtaidd yn rhyngwladol trwy lunio partneriaethau, denu myfyrwyr o safon uchel, lledaenu ymchwil ac ysgogi rhyngweithio
Ein Strategaeth
Rydym yn cyflawni ein hamcanion trwy:
- Gynnal prosiectau ymchwil cydweithredol hirdymor ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill
- Gydweithio â sefydliadau academaidd a chyrff cyhoeddus eraill yn ein gwlad ac yn rhyngwladol
- Gyhoeddi ein gwaith mewn print ac ar lein yn nwy iaith Cymru ac mewn ieithoedd eraill
- Drefnu cynadleddau a digwyddiadau cyhoeddus eraill yng Nghymru a chyflwyno ein gwaith ar draws y byd
- Ddarparu Geiriadur Prifysgol Cymru, Y Bywgraffiadur Cymreig, Cymru 1900 (cronfa enwau lleoedd), AEMAP (cronfa ddata iaith ac archaeoleg Oes yr Efydd), Gutorglyn.net ac adnoddau electronig eraill ar lein yn ddi-dâl
- Ddatblygu sail ariannol gadarn, amrywiol a chynaliadwy ar gyfer ein gweithgareddau
- Ddenu, meithrin a chadw staff o ansawdd uchel
- Sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithlon ac yn rhoi’r gwerth uchaf am yr arian cyhoeddus a phreifat a fuddsoddir yn ein gwaith