Content
Awdur/Golygydd | Cathryn Charnell-White |
Cyhoeddwyd | 2009 |
ISBN | 978-0-947531-93-5 |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press |
Pris | £14.00 |
Maint | 234 x 156 mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xvi+277 |
Ceir yn y gyfrol hon 240 o emynau golygedig Edward Williams (Iolo Morganwg; 1747–1826) ynghyd â geirfa a rhagymadrodd. Dosberthir yr emynau yn ôl y themâu canlynol: y Duwdod, Mawl i Dduw, Iesu Grist, yr Eglwys Undodaidd, y Bywyd Duwiol, Addoliad Undodaidd, Diwethafiaeth, a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Y mae’r rhagymadrodd yn gosod yr emynau yn eu cyd-destun hanesyddol a generig ac yn dangos y modd y maent yn taflu goleuni ar ideoleg y gymdeithas Undodaidd gynnar, yn ogystal ag ar radicaliaeth wleidyddol a chrefyddol Iolo Morganwg ac ar ei bersonoliaeth amlochrog ef ei hun.