Skip page header and navigation

Diwylliant Gweledol Cymru: Delweddu’r Genedl (CD-ROM)

Content

Diwylliant Gweledol Cymru: Delweddu’r Genedl (CD-ROM)
Holder Image
Awdur/Golygydd Peter Lord
Cyhoeddwyd 2002
ISBN
0-7083-1768-5
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £30.00
Maint CD-ROM
Fformat CDROM (WINDOWS/MAC)

Yn ail CD-ROM y gyfres Diwylliant Gweledol Cymru ceir yr arolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o ddiwylliant gweledol Cymru. Y mae’n rhychwantu’r cyfnod o’r unfed ganrif am bymtheg hyd y 1960au ac yn ymdrin â pheintio, gwneud printiau, ffotograffiaeth a ffilm.

Dros 1,500 o ddelweddau o safon uchel – mwy na dwywaith y nifer o luniau sydd yn y llyfr
Cyfweliadau sy’n codi cwestiynau ynghylch traddodiadau gweledol y gorffennol a’u lle yng Nghymru heddiw, yn ogystal â safbwyntiau artistiaid, a gweithwyr proffesiynol ac athrawon yn y celfyddydau
Bywgraffiad dros 100 o artistiaid sydd wedi gweithio yng Nghymru
Mapiau, llyfryddiaeth, geirfa, cronoleg, ffilm archifol, cerddoriaeth a sain
Bydd y gyfres o dri CD-ROM yn gydymaith anhepgor i unrhyw un a chanddo ddiddordeb yn etifeddiaeth weledol Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf.

Gofynion cyfrifiadurol: Windows™ 95/98, Pentium 166, 64Mb RAM, 12x CD-ROM, llygoden, lliw 16-bit VGA (o leiaf), cerdyn sain gydag uchelseinyddion neu glustffonau, QuickTime™ 3 neu 4 (ar y CD-ROM); PowerMac™ 7.6.1 neu fersiwn diweddarach, gofynion eraill fel uchod. (Ar beiriant cyflym gellir rhedeg y rhaglen yn syth o’r CD-ROM; ar beiriant llai pwerus bydd angen 90Mb o ofod rhydd ar y ddisg galed.)

Rhai sgriniau o’r CD-ROM

Llun o ddynes gyda thelyn, gyda’r teitl ‘Diwylliant Gweledol Cymru: Delweddu’r Genedl’

Y mae’r CD-ROM yn cynnwys holl destun y llyfr printiedig gyda’r delweddau i gyd, a gall y defnyddiwr chwyddo’r delweddau ar y sgrin ac edrych arnynt mewn cyd-destunau gwahanol.

Llun yn dangos tudalen o’r llyfr (tudalen gynnwys) wedi ei ailfformatio ar gyfer y CD-ROM

Tudalen o’r llyfr wedi ei ailfformatio ar gyfer y CD-ROM

Y mae ‘Llwybrau’r Llygad’ yn cynnwys llawer o ddeunydd darluniadol newydd, gydag adrannau wedi eu rhannu rhwng Gwaith, Nawdd a Syniadau. Y mae’r adrannau hyn yn cynnwys golwg wahanol ar eitemau sydd yn y llyfr yn ogystal â delweddau a gwrthrychau newydd, llawer ohonynt heb eu cyhoeddi o’r blaen.

Sgrin o Lwybrau’r Llygad: Y Bonedd ac Arlunwyr Gwlad: Nawdd y Boneddigion

Sgrin o Lwybrau’r Llygad: Y Bonedd ac Arlunwyr Gwlad: Yr arlunydd gwlad a’r ffotograffydd

Sgriniau o Llwybrau’r Llygad: Y Bonedd ac Arlunwyr Gwlad

Ceir nifer o gyfweliadau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o safbwyntiau ar hanes celf. Y mae cyfweliadau eraill yn yr Oriel Amser yn trafod materion fel cadwraeth lluniau, dylanwad y farchnad gelf bresennol, a’r defnydd parhaol o draddodiadau gweledol Cymreig gan artistiaid cyfoes.

Ivor Davies yn siarad yn ‘Safbwynt’ (Perspectives on Art History)

Ivor Davies speaking in ’Safbwynt’ (Perspectives)

A performance by Paul Davies at the National Eisteddfod, Wrexham, 1977

Perfformiad gan Paul Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1977

Y mae fersiwn Saesneg o’r CD-ROM ar gael yn ogystal.

Rhai sylwadau

CILIP logoEnillodd ‘Delweddu’r Genedl’/‘Imaging the Nation’ Fedal Besterman/McColvin am waith cyfeiriol rhagorol yn y categori electronig yn y CILIP (Chartered Institute of Library and Information Professionals) Awards, 1 Tachwedd 2002.

‘I have rarely if ever come across a CD-ROM that exploits the ability of the format so well, nor found a CD-ROM publication so attractively, indeed beautifully, designed, nor one that fills an important but underexploited gap in knowledge so effectively and authoritatively.’

Anthony Hugh Thompson, Cadeirydd Pwyllgor Cyfryngau Electronig ’CILIP Reference Awards’ (o adolygiad sydd heb ei gyhoeddi eto)

‘Roedd yna amser pan oedd pawb yn cael llaeth am ddim yn yr ysgol, sudd oren a cod liver oil er ein lles corfforol. Hwyrach y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau – er lles ein hiechyd diwylliannol – fod pob cartre’ yng Nghymru yn cael copi o’r CD-Rom eithriadol hwn am ddim, a’r disgiau fydd yn dilyn.’

Ozi Rhys Osmond, Golwg, 10 Hydref 2002