Content
Diwylliant Gweledol Cymru: Y Gymru Ddiwydiannol
Awdur/Golygydd | Peter Lord |
Cyhoeddwyd | 1998 |
ISBN | 0-7083-1497-X |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £25.00 |
Maint | 240 x 290mm |
Fformat | Clawr caled/Hardback, 272 tt./pp., darluniau lliw llawn/full colour illustrations |
Y mae’r gyfrol gyntaf hon yng Nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru yn disgrifio nid yn unig ddelweddau o safleoedd diwydiannol a gweithwyr yng Nghymru o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen, ond hefyd y nawdd a gynigid gan y rhai a drigai yn y cymunedau diwydiannol. Y mae’n cynnwys y penodau canlynol:
- Datblygiad diwydiant fel pwnc mewn celfyddyd: delweddau o safleoedd diwydiannol a phobl wrth eu gwaith hyd at ddechrau oes Victoria.
- Diwylliant gweledol y gymuned ddiwydiannol: nawdd diwydianwyr a phobl gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
- Delweddu ing cymdeithasol: cydwybod cymdeithasol gwneuthurwyr delweddau yn sgil pwysau’r byd diwydiannol.
- Artistiaid Cymru a’r gymdeithas ddiwydiannol: delweddau yn perthyn i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a wnaed gan artistiaid proffesiynol yn deillio o’r cymunedau diwydiannol.
- Democrateiddio celfyddyd: datblygiad y mudiad treflannu ac, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ymddangosiad Cyngor y Celfyddydau a’i athroniaeth o ‘gelfyddyd i bawb’.
Y mae fersiwn Saesneg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com