Skip page header and navigation

Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Content

Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Book over of Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Awdur/Golygydd Geraint H. Jenkins
Cyhoeddwyd 1998
ISBN 0708316581
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£19.99
Maint 237 x 154mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xv+427
 

Hon yw’r drydedd gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ceir ynddi bedair pennod ar ddeg, wedi eu hysgrifennu gan arbenigwyr cydnabyddedig, ynghyd â llu o fapiau a ffigurau esboniadol. Nod y gyfrol yw egluro’r berthynas gymhleth rhwng iaith a chymuned yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg estynedig. Trafodir tynged yr iaith Gymraeg o fewn cyd-destun Celtaidd a sonnir hefyd am brofiad rhai o ieithoedd canolbarth Ewrop.

Y mae fersiwn Saesneg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: Language and Community in the Nineteenth Century.