Skip page header and navigation

‘Let’s Do Our Best for the Ancient Tongue’: The Welsh Language in the Twentieth Century

Content

‘Let’s Do Our Best for the Ancient Tongue’: The Welsh Language in the Twentieth Century
Holder Image
Awdur/Golygydd Geraint H. Jenkins
Cyhoeddwyd 2000
ISBN 0708316581
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£25
Maint 237 x 154mm
Fformat
Clawr papur/Paperback, xv+700

Hon yw’r chweched gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ynddi ceir y dadansoddiad manwl ac awdurdodol cyntaf o hynt yr iaith Gymraeg yn y cyfnod mwyaf cythryblus yn ei hanes. Yn yr un bennod ar hugain a gynhwysir yn y gyfrol trafodir nid yn unig ddirywiad y Gymraeg o safbwynt niferoedd a thiriogaeth, ond hefyd ei brwydr am gydnabyddiaeth a’i swyddogaeth mewn amrywiol feysydd. O’r holl ymadroddion cofiadwy a fathwyd yn yr ugeinfed ganrif y mwyaf arwyddocaol o ddigon i’r siaradwr Cymraeg yw ‘Tynged yr Iaith’, ac y mae’r gyfrol hon yn cynnig sylwebaeth gyffrous ar y prosesau o newid, o ddirywiad ac o adfywiad a brofwyd gan yr iaith fyw hynaf ym Mhrydain.

Y mae fersiwn Cymraeg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: ‘Eu Hiaith a Gadwant’?