Content
Statistical Evidence relating to the Welsh Language 1801–1911
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Dot Jones |
Cyhoeddwyd | 1998 |
ISBN | 0708314600 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £19.99 |
Maint | 237 x 154mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xiv+519 (bilingual) |
Dyma’r ail gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Hon yw’r astudiaeth gyntaf o’i bath i gyflwyno casgliad cynhwysfawr, eglur a hawdd ei ddefnyddio o ddeunydd ystadegol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyflwynir yr ystadegau – sydd wedi eu rhannu yn bump o adrannau, pob un â rhagymadrodd – ar ffurf tablau, ynghyd â mapiau esboniadol. Y mae’r gyfrol yn adlewyrchu natur ieithyddol gyfnewidiol Cymru mewn cyfnod tyngedfennol yn ei hanes.