Skip page header and navigation

Uno ac Ad-drefnu

Uno ac Ad-drefnu

Mae’r set ganlynol o Gwestiynau Cyffredin wedi eu llunio i helpu Canolfannau Cydweithredol, Arholwyr Allanol a Dilyswyr ddeall digwyddiadau diweddar ym Mhrifysgol Cymru.

Strategaeth Academaidd Newydd

  • Bydd y Brifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr sydd eisoes yn dilyn cyrsiau ar ba bynnag gam o’u rhaglen astudio barhau hyd nes y byddant wedi cwblhau eu rhaglen bresennol.

  • Bydd myfyrwyr sydd ar fin dechrau astudio neu sydd wedi eu derbyn ar gyfer astudio yn y dyfodol dan gytundeb rhwng y Canolfannau Cydweithredol a’r Brifysgol yn cofrestru gyda Phrifysgol Cymru ac yn cael cwblhau eu rhaglen astudio.

  • Bydd y Brifysgol yn anrhydeddu’r ymrwymiadau cyfreithiol a wnaed i’r Canolfannau Cydweithredol yn unol â’r Cytundeb Dilysu. Bydd Canolfannau Cydweithredol yn gallu parhau gyda’u gwaith yn ystod y cyfnod rhybudd.

  • Bydd pob myfyriwr sydd wedi dechrau astudio ar bwyntiau derbyn cytûn sy’n cael eu nodi yng Nghytundeb Dilysu pob Canolfan Cydweithredol yn cael cwblhau eu hastudiaethau yn ôl yr amserlenni penodedig yn Rheoliadau’r Brifysgol.

  • Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda phob Canolfan Gydweithredol i roi cyfle am ailasesiad yn achos myfyrwyr sydd angen ailsefyll y tu hwnt i’r cyfnod a benodir gan Gytundeb Dilysu presennol y Ganolfan ar gyfer y rhaglen y mae’r myfyriwr wedi cofrestru ar ei chyfer.

  • Mae’r Brifysgol yn datblygu model addysgol rhyngwladol newydd.

  • Bydd y Brifysgol yn sefydlu peirianwaith i rannu gwybodaeth bellach gyda Chanolfannau Cydweithredol ynglŷn â’r model newydd arfaethedig a bydd yn sicrhau bod barn y myfyrwyr yn cael ei chynrychioli.

  • The University of Wales is transforming itself for the future with other HEIs in Wales, a development which accords with the Welsh Government’s objectives for the sector. As part of this process, the University agreed in 2011 to exit from all of its collaborative partnerships based on the former validated services model.

    The University has advised centres and other parties that formal references for potential new validating authorities looking to form partnerships with centres will be issued through the good offices of the Academic Dean only.

    To request a reference, please email  with the words ‘Reference Request’ in the Email subject line, with details of your centre.registryhelpdesk@wales.ac.uk

Datblygiadau Uno

  • Bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru’n uno i greu un Brifysgol.

  • Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn gweithredu dan Siarter Frenhinol 1828 Y Drindod Dewi Sant. Dyma’r Siarter Prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

  • Yr Athro Medwin Hughes.

  • Byddant.