Skip page header and navigation

The Visual Culture of Wales: Imaging the Nation

Content

The Visual Culture of Wales: Imaging the Nation
Holder Image
Awdur/Golygydd Peter Lord
Cyhoeddwyd 2000
ISBN 0-7083-1587-9
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£37.50
Maint 240 x 290mm
Fformat Clawr caled/Hardback, 416tt./pp., 700 darlun/ illustrations

D.S. Y mae’r teitl hwn allan o stoc ar hyn o bryd. Fe’i hadargreffir cyn bo hir. Y mae’r llyfr cyfan (ynghyd â llawer o ddeunydd ychwanegol) hefyd ar gael ar CD-ROM.

Y mae’r ail gyfrol hon yn y gyfres arloesol a chlodfawr ar ddiwylliant gweledol Cymru yn ymdrin â’r modd y delweddwyd tir a phobl Cymru o gyfnod y Tuduriaid hyd y 1960au.

Trafodir y portreadau o uchelwyr y cyfnod Tuduraidd, tirluniau’r ddeunawfed ganrif, darluniau gan arlunwyr gwlad, a’r mudiad cenedlaethol ym myd celf o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Ymdrinnir â datblygiad delweddau a llunio delweddau o fewn cyd-destun ehangach y newidiadau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a sefydliadol a fu yng Nghymru. 

Bydd y gyfrol hynod ddeniadol hon, sy’n cynnwys dros 700 o ddelweddau, y mwyafrif mewn lliw a llawer ohonynt yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, yn apelio at bawb sy’n ymddiddori yn hanes Cymru a’i diwylliant gweledol.

Y mae fersiwn Cymraeg o’r gyfrol ar gael yn ogystal.