Skip page header and navigation

Welsh Ballads of the French Revolution 1793–1815

Content

Welsh Ballads of the French Revolution 1793–1815
Holder Image
Awdur/Golygydd Peter Lord
Cyhoeddwyd 2012
ISBN 978-0708324615
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £24.99
Maint 234 x 156 mm
Fformat 464pp - 4 darlun a sgoriau cerddoriaeth

Ceir yn Welsh Ballads of the French Revolution 1793–1815 gasgliad o faledi Cymraeg a gyfansoddwyd mewn cyfnod tyngedfennol yn hanes gwareiddiad y Gorllewin. Mae’r testunau yn ymateb i gyffroadau degawd y Chwyldro a’i ganlyniadau, wrth i bobl drwy Brydain ddechrau ymateb i farwolaethau treisgar brenin a brenhines Ffrainc, i’r perygl y byddai’r gelyn yn rhoi cynnig ar oresgyn neu y byddai rhai ym Mhrydain yn ceisio efelychu’r gwrthryfeloedd, ac i her ymfyddino ar raddfa fwy nag a welwyd erioed o’r blaen.

Cyflwynir yn y gyfrol hon olygiad o 38 baled gan amryw o awduron, llawer ohonynt yn enwau cwbl ddieithr i ddarllenwyr heddiw. Cyfoethogir felly ein hymwybyddiaeth o’r rhai a fu’n ymwneud â thraddodiad y faled brintiedig Gymraeg ac ymestynnir ein gwybodaeth ynghylch yr hyn a’u hysgogai i ganu.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â Gwasg Prifysgol Cymru neu i archebu, ewch i: www.uwp.co.uk